Datganiadau i'r Wasg

Y Rural Office for Architecture i oruchwylio uwchgynllun Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer ailddatblygu i’r dyfodol

Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi'r Rural Office for Architecture i arwain y gwaith o ddatblygu uwchgynllun cysyniadol fydd yn llywio datblygiad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yng nghanol y brifddinas, yn ganolfan diwylliannol a chreadigol i’r genedl.

adeilad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw amgueddfa genedlaethol celf a gwyddorau naturiol Cymru. Mae'n cynnal arddangosfeydd mawr megis Kizuna Japan | Cymru | Dylunio, Bywyd Richard Burton ac Artes Mundi, a groesawodd dros 530,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn cyn COVID-19.

Wrth adeiladu ar lwyddiannau ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a enillodd wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, bydd Amgueddfa Cymru yn cydweithio â phobl Caerdydd a Chymru wrth ailgreu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Ein uchelgais yw datblygu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn amgueddfa arloesol i'r 21ain ganrif sy'n gynaliadwy i'r dyfodol ac yn diwallu anghenion pawb yng Nghymru.  

"Drwy ailddatblygu Sain Ffagan a nawr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, rydym yn creu model newydd o amgueddfeydd – un sy'n dibynnu ar gyfranogiad ein defnyddwyr a'n cynulleidfaoedd. 

"Maen nhw'n amgueddfeydd heb waliau, wedi eu creu gan bobl Cymru."

Mae'r Rural Office for Architecture (ROA) wedi ennill sawl gwobr, ac fe’u penodwyd ar gyfer y project hwn drwy dendr cystadleuol. Mae'r cwmni'n casglu ynghŷd dîm ymgynghorol o weithwyr proffesiynol profiadol, pob un yn gweithio ar draws Cymru a De Orllewin Lloegr, sy'n arbenigwyr yn eu meysydd gyda phortffolio diwylliannol profiadol. 

Dywedodd Cyfarwyddwr yr ROA, Niall Maxwell: 

"Mae’n bleser cael ein dewis i weithio gydag Amgueddfa Cymru i lywio dyfodol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a chynllunio ar gyfer ei 100 mlynedd nesaf o wasanaeth."

Mae'r astudiaeth ddylunio yn dechrau ym mis Ebrill 2021 ac yn rhedeg am 15 mis, yn ddibynnol ar gyfyngiadau COVID-19.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, mae'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.