Datganiadau i'r Wasg

Codi’r Llen ar Gaffael - galwad am bobl 18-25 oed

‘Tu ôl i ddrysau caeedig y byddai celf yn cael ei gaffael i gasgliadau cyhoeddus, tan nawr. Mae’r project hwn yn gyfle i wneud y broses hon yn fwy agored, yn fwy defnyddiol i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a phobl greadigol yng Nghymru, a rhoi mynediad a gwerth i bob cam o’r broses!’

- Umulkhayr Mohamed, Hwylusydd Ieuenctid a Churadur

‘Fe wnes i gymaint o gamgymeriadau caffael yn fy swydd gyntaf fel curadur. Mae angen set o sgiliau penodol iawn ac anaml fydd neb yn eich dysgu tan eich bod chi yn ei chanol hi – byd cudd y byd celf.’

- Neil Lebeter, Uwch Guradur: Celf Fodern a Chyfoes

Mae Amgueddfa Cymru am benodi grŵp craidd o 5 o bobl, rhwng 18 a 25, i weithio gyda’n curaduron celf gyfoes i godi’r llen ar y broses gaffael, trafod cwestiynau am y broses o gaffael gweithiau sydd dan ystyriaeth, a phenderfynu ar y cyd.

Byddwch chi’n:

  • ymchwilio i’r casgliadau presennol
  • trafod polisi casglu fel fframwaith
  • dadansoddi a diweddaru ein polisïau casglu
  • ymchwilio i’r broses gaffael, gan gynnwys nawdd
  • edrych ar brosesau cadwraeth, catalogio a dogfennu gweithiau
  • cyd-guradu arddangosiad newydd, gan gynnwys fframio, gosod a dehongli
  • creu adnoddau sy’n esbonio’r broses gaffael i gynulleidfa ehangach.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl greadigol, pobl sydd am weithio yn y sector, a myfyrwyr sy’n astudio neu newydd raddio, i ddysgu am brosesau yn y byd celf sy’n anaml yn cael eu hesbonio a’u trafod. Y bwriad yw dechrau ym Mai 2021 gan anelu at ddyddiad gosod yn y Gwanwyn 2022.

I gymryd rhan ac i ddysgu cyfrinachau’r byd celf, anfonwch lythyr cyflwyno byr, neu recordiad fideo neu sain yn esbonio pam bod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, at bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk erbyn 25/04/21.

Rydyn ni am i’r broses fod mor deg ac agored â phosib, a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i’r broses er mwyn sicrhau hyn. Cysylltwch os oes angen cefnogaeth ychwanegol arnoch chi, ac fe allwn drafod opsiynau gwahanol gyda’n gilydd.