Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn Sain Ffagan yn archwilio dyfodol Cymru

Mae arddangosfa newydd sbon, Yfory Trwy Lygaid Ddoe, a gynhyrchwyd gan grŵp o bobl ifanc, yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar ddydd Mercher 9 Mehefin.

Cafodd yr arddangosfa amlddisgyblaethol ei chyd-guradu gan yr artist Henry Alles a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, ac mae’n mynd ati i archwilio’r gorffennol er mwyn darganfod y dyfodol.

Roedd gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, sy’n rhoi llais i bobl ifanc yng ngwaith yr Amgueddfa, rôl allweddol yn natblygiad yr arddangosfa, yn cyd-hwyluso gweithdai creadigol ac yn datblygu gweithgareddau ymgysylltu.

Er mwyn archwilio’r dyfodol, aethant ati gyda Henry Alles i edrych ar y gorffennol drwy durio i gasgliadau cenedlaethol Cymru. Ymysg y 59 eitem sy’n rhan o’r arddangosfa mae baner o Gomin Greenham, het eiconig Dr William Price, darn enfawr o lo, a chroen llew - y cyfan o’n casgliadau. Mae Yfory Trwy Lygaid Ddoe yn gofyn i ni ystyried y gorffennol wrth feddwl am ein dyfodol. Mae’n mynd i’r afael â themâu cyfoes fel yr amgylchedd, hunaniaeth rhywedd, amrywiaeth a phrofiadau bywyd.

Mae projectau ieuenctid ar draws Amgueddfa Cymru yn rhan o gynllun Dwylo ar Dreftadaeth, sy’n bosibl diolch i Grant Tynnu’r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Roedd yr arddangosfa hon yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Mathew a Lucy Prichard.

Cafodd yr arddangosfa ei chreu ar y cyd gan yr artist Henry Alles a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, pobl ifanc greadigol a chydlynwyr ifanc; Abike Ogunlokun, Eädyth Crawford, Elliot Cooper, Jake A. Griffiths, Juliette Georges, Marged Elen Wiliam, Mohamed Hassan, Radha Patel, Rhianydd Whitcombe, Sarah Younan, Talulah Angharad Thomas, Umulkhayr Mohamed, a Valentine Gigandet.

Dywedodd Jake A. Griffiths, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru:

“Mae cyd-guradu Yfory Trwy Lygaid Ddoe wedi bod yn brofiad arbennig. Cawsom y cyfle i weithio gydag artist proffesiynol, curaduron yr Amgueddfa, a phobl ifanc greadigol i ddatblygu’r arddangosfa. Mae’n grynhoad o weledigaeth y bobl ifanc o ddyfodol posibl.”

Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld yr arddangosfa hon yn agor yn Sain Ffagan. Rydym wedi parhau i weithio gyda phobl ifanc drwy’r pandemig ac mae’r arddangosfa hon yn ganlyniad i waith Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n wych i weld cynnyrch eu creadigrwydd.

“Rydym am sicrhau bod ymgysylltu â phobl ifanc yn greiddiol i’n gwaith, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am eu cefnogaeth gydag ymgyrch Tynnu’r Llwch sy’n sicrhau y gallwn barhau i weithio gyda phobl ifanc.”

Yfory Trwy Lygaid Ddoe yn agor, 9 Mehefin 2021 ac yn cau ar 21 Ionawr 2022. Mynediad am ddim.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.  Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Diwedd