Datganiadau i'r Wasg

Arddangosiad newydd yn dathlu pencampwyr Olympaidd Cymru

Ar drothwy Gemau Olympaidd Tokyo Haf 2020 bydd arddangosiad newydd o wrthrychau nodedig rhai o bencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar ddydd Gwener 23 Gorffennaf

Medal aur Lynn Davies o'r gemau Olympaidd yn Tokyo, 1964 

Mae’r arddangosiad yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru ac i'w gweld yn oriel Cymru... yr Amgueddfa. 

Dewch i adnabod rhai o gewri byd y campau, gan gynnwys y nofiwr a'r chwaraewr polo dŵr, Paulo Radmilovic, sydd hyd heddiw yn Olympiad mwyaf llwyddiannus Cymru gyda phedair medal aur o chwe ymddangosiad yn y gemau. Dysgwch hefyd am Irene Steer, y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal aur a deiliad record byd a ddysgodd nofio y Llyn Parc y Rhath; a Lynn Davies a enillodd fedal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964.

Bydd y gwrthrychau yn cynnwys medalau, dillad Olympaidd swyddogol, tystysgrifau a ffotrograffau. Un o'r gwrthrychau mwyaf nodedig yw medal aur a gwisg nofio Irene Steer o Gemau Olympaidd 1912 yn Stockholm. Byddai'n 96 mlynedd cyn i Gymraes efelychu'i champ, pan gipiodd y feicwraig Nicole Cooke yr aur yn Beijing yn 2008, a hynny ar ben-blwydd Irene yn 119.

Gellir gweld hefyd medal aur Lynn Davies, a'r esgidiau rhedeg a wisgodd wrth ennill y naid hir yn Japan 57 mlynedd yn ôl; un o dair medal aur Olympaidd Richard Meade, un o fawrion y byd marchogaeth, a medalau arian ac efydd y nofiwr David Davies.  

Dywedodd Fflur Morse, Uwch Guradur Bywyd Diwylliannol yn Amgueddfa Cymru:

"Mae'n wych gallu arddangos y gwrthrychau Olympaidd eiconig yma yn oriel Cymru... ac i'r cyhoedd gael eu mwynhau cyn Gemau Olympaidd Tokyo Haf 2020. Mae gan Gymru hanes hir o lwyddiant yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac mae'n bleser cydweithio ag Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru i'w dangos yn gyhoeddus."

Dywedodd Llywydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, Lynn Davies:  

"Mae gan Gymru gyswllt gwych â'r Gemau Olympaidd ers ymddangosiad William Lloyd Phillips o Gasnewydd fel rhan o dîm gymnasteg Prydain ym Mharis yn 1900. Enillwyd yr aur cyntaf gan yr amryddawn Paulo Radmilovic gyda'i ddwy fedal yng ngemau Olympaidd cyntaf Llundain ym 1908, ac ers hynny mae athletwyr o Gymru wedi ennill aur 27 o weithiau.

"All dim eich paratoi am y profiad gweddnewidiol o ennill medal aur Olympaidd. Rydych chi'n dod yn aelod o glwb arbennig a chyfrin iawn, ond mae gan bencampwr Olympaidd ei gyfrifoldebau hefyd, a'r prif gyfrifoldeb yw ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol drwy eich gweithredoedd.

"Rydw i'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn dod i weld yr eitemau rydyn ni wedi'u casglu ynghyd yn Sain Ffagan. Mae'n ddetholiad bychan o gyfraniad mawr Olympiaid Cymru i chwaraeon, bywyd a diwylliant y genedl."

Bydd y gwrthrychau i'w gweld rhwng 23 Gorffennaf a 2 Hydref 2021. Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ond rhaid i bob ymwelydd archebu tocyn ymlaen llaw drwy'r wefan.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o'r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery.