Datganiadau i'r Wasg

Prabhakar Pachpute yn ennill Gwobr Brynu Artes Mundi gan Ymddiriedolaeth Derek Williams

Mae un o artistiaid Artes Mundi 9, Prabhakar Pachpute, wedi ennill Gwobr Brynu Artes Mundi gan Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Mae’r wobr yn galluogi i Amgueddfa Cymru gaffael un o’r darnau celf ar restr fer Artes Mundi, ar gyfer ei chasgliad parhaol o gelf gyfoes. Ymysg enillwyr blaenorol y wobr mae Ragnar Kjartansson, Bedwyr Williams, Tanya Bruguera ac Anna Boghiguian. Mae gwaith Pachpute i’w weld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o arddangosfa a gwobr gelf ryngwladol fwyaf y DU – Artes Mundi 9 – sydd ar agor tan 5 Medi 2021.

Mae gwaith Pachpute wedi’i arddangos ar draws y byd, o São Paulo i Istanbul, o Barcelona i Brisbane, ond dyma’r tro cyntaf i ddarn o waith gan yr artist o India gael ei brynu gan amgueddfa neu sefydliad yn y DU. Mae hefyd yn garreg filltir arwyddocaol wrth ddatblygu casgliad celf gyfoes o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghymru.

Cafodd Rattling Knot (2020) a The Close Observer (2020) eu dewis ar gyfer y wobr gan banel yn cynnwys Nick Thornton o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Dr Zoé Whitley o Chisenhale Gallery yn Llundain, ynghyd ag Artes Mundi. Gyda’i gilydd, mae’r gweithiau hyn yn rhan o gyflwyniad Pachpute yn Artes Mundi 9, sy’n tynnu sylw at gysylltiadau treftadaeth ddiwylliannol cymunedau glofaol yng Nghymru a’r byd, gan gynnwys hanes teulu Pachpute ei hun, fu’n gweithio ym mhyllau glo canolbarth India am dair cenhedlaeth.

Yn ei waith, mae Pachpute – gafodd ei enwi yn un o gyd-enillwyr gwobr Artes Mundi 9 yn gynharach eleni – yn defnyddio eiconograffi protestio a gweithredu. Mae’n creu iaith weledol sy’n tynnu sylw at broblemau systemau economaidd byd-eang, yn cynnwys amodau gwaith, mwyngloddio diddiwedd, datblygiad cymdeithasol anghyfartal, a gwleidyddiaeth tir. Mae ei ffigurau hybrid wedi’i darlunio o fewn tirwedd apocalyptaidd, wrth i ddiwydiant a llafur eu boddi.

Dywedodd Prabhakar Pachpute: “Mae’n anrhydedd fawr i gael fy newis ar gyfer Gwobr Brynu Artes Mundi gan Ymddiriedolaeth Derek Williams. Mae’r arwydd hwn o werthfawrogiad yn bwysig iawn i alluogi artist i ddal i weithio. Daw’r gydnabyddiaeth hon o fy ngwaith â mwy o gyfrifoldeb, ac mae’n golygu llawer i mi. Gobeithiaf y byddaf yn dod yn berson doethach gyda’r wobr hon.”

Dywedodd Dr Zoé Whitley, un o reithgor Gwobr Brynu Artes Mundi: “Roedd bod ar banel dewis y wobr hon yn fraint anferth. Wrth ystyried gwaith ardderchog pob un o’r chwe artist, daeth yn amlwg fod hwn hefyd yn gyfle i ddathlu’r profiad unigryw o weld celf yn y cnawd. Nid yw gweithiau Prabhakar Pachpute yn cyfyngu’u hunain i’w harwynebau –- maent yn estyn allan ac yn ein tynnu ni i mewn iddynt. Mae ei waith yn ein hatgoffa o’r pŵer sydd gan ddelweddau i drawsnewid y gofodau yr ydym yn eu rhannu, gan dynnu sylw at frwydrau a gweithredu torfol.”

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae Amgueddfa Cymru yn falch iawn bod Gwobr Brynu Artes Mundi gan Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi ein galluogi i gaffael gwaith Prabhakar Pachpute ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Magwyd Pachpute yn un o feysydd glo India, ac mae cysylltiadau amlwg rhwng y tirweddau a’r cymeriadau sy’n llenwi ei waith ef a hanes a gwaith celf cymunedau glofaol Cymru. Edrychwn ymlaen at archwilio’r cysylltiadau hyn mewn blynyddoedd i ddod, a hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ymddiriedolaeth Derek Williams am eu cefnogaeth hollbwysig i sicrhau bod gwaith celf o bwys rhyngwladol ar gael i gynulleidfaoedd Cymru.”

Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Mae’r bartneriaeth hirdymor rhwng Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams, yn un i ymfalchïo ynddi. Rydym wrth ein boddau fod darnau mawr o waith gan artistiaid cyfoes yn dal i gael eu caffael, gan ffurfio casgliad sylweddol ar gyfer pobl Cymru. Llongyfarchiadau i Prabhakar, enillydd y Wobr Brynu ar gyfer Artes Mundi 9.”

Dywedodd John Thomas-Ferrand, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Derek Williams: “Mae’n rhoi pleser mawr i ni fel Ymddiriedolaeth i allu cefnogi’r nawfed wobr brynu o arddangosfa Artes Mundi. Ers 30 mlynedd bu’r Ymddiriedolaeth yn helpu Amgueddfa Cymru i gaffael gweithau celf modern a chyfoes ar gyfer pobl Cymru. Trwy gyfrwng y wobr hon gall Amgueddfa Cymru barhau i ychwanegu at y casgliadau rhyngwladol a sefydlwyd gan roddwyr fel Gwendoline a Margaret Davies. Mae’r caffaeliad hwn o waith Prabhakar Pachpute yn ychwanegiad nodedig arall at restr sy’n cynnwys Tanya Bruguera, Berni Searle a Bedwyr Williams.”

Gan fod y gweithiau hyn yn gorlifo dros y cynfas i’r waliau, mae Pachpute wedi gweithio gydag Artes Mundi a’r Amgueddfa i greu cyfarwyddiadau manwl fydd yn caniatáu i’r gwaith gael ei ailosod yn y dyfodol.

Mae Artes Mundi 9, sy’n cynnwys gwaith Prabhakar Pachpute ynghyd â Firelei Báez, Dineo Seshee Bopape, Meiro Koizumi, Beatriz Santiago Muñoz a Carrie Mae Weems, i’w weld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a chanolfan Chapter tan 5 Medi, gyda rhaglen ychwanegol o weithiau fideo gan yr artistiaid yn g39.