Datganiadau i'r Wasg

Tirwedd llechi Cymru yw'r lleoliad diweddaraf i ddod yn safle treftadaeth y byd UNESCO

Mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei hychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO

Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yw’r lleoliad diweddaraf yn y DU i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ar ôl derbyn yr anrhydedd heddiw, yn sesiwn rhif 44 Pwyllgor Treftadaeth y Byd. 

Y dirwedd yw’r deuddegfed safle ar hugain o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU, a’r pedwerydd yng Nghymru, gan ddilyn Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

Roedd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n ymestyn drwy sir Gwynedd, ar flaen y gad o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llechi wedi cael eu cloddio yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd ac wedi cael eu defnyddio i adeiladu rhannau o gaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy. Fodd bynnag, dim ond yn ystod y Chwyldro Diwydiannol y gwelwyd cynnydd yn y galw wrth i ddinasoedd ledled y byd ddatblygu, gyda llechi o chwareli Gwynedd yn cael eu defnyddio’n eang ar doeau cartrefi gweithwyr, adeiladau cyhoeddus, mannau o addoliad a ffatrïoedd. 

 

Erbyn y 1890au, roedd y diwydiant llechi yng Nghymru yn cyflogi oddeutu 17,000 o weithwyr ac yn cynhyrchu bron i 500,000 tunnell o lechi y flwyddyn, oddeutu traean o’r holl lechi toi a ddefnyddiwyd yn y byd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaernïaeth fyd-eang, gyda llechi o Gymru yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ar draws y byd, gan gynnwys Neuadd San Steffan yn Nhŷ’r Senedd yn Llundain, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas Copenhagen, Denmarc. Yn 1830, roedd hanner yr adeiladau yn Efrog Newydd wedi’u toi â llechi o Gymru.

Gweddnewidiwyd tirwedd yr ardal ar raddfa enfawr gan ganrifoedd o fwyngloddio, ac mae’r arysgrif yn adlewyrchu’r rôl bwysig a chwaraeodd y rhanbarth hwn yn ‘rhoi to ar fyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg’.

 

Dywedodd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y DU, Caroline Dinenage:

“Mae Statws Treftadaeth Byd UNESCO yn llwyddiant enfawr ac yn brawf o bwysigrwydd y rhanbarth hwn yn y chwyldro diwydiannol a threftadaeth mwyngloddio llechi Cymru. Rwy’n croesawu'r  posibilrwydd o fwy o fuddsoddiad, swyddi a gwell dealltwriaeth o’r rhan syfrdanol hon o’r DU.”

 

Dywedodd Duncan Wilson, Prif Weithredwr Historic England: 

“Rydyn ni’n falch o weld Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru a dinas Caerfaddon yn cael eu cydnabod yn Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Caerfaddon yn llwyr haeddu cael ei rhestru ddwywaith yn Safle Treftadaeth y Byd, sy’n beth prin. O’i gweddillion Rhufeinig i’w phensaernïaeth Sioraidd trawiadol, mae Caerfaddon yn ddinas sydd wedi gwneud argraff ar drigolion ac ymwelwyr ers canrifoedd. Mae cael ei harysgrifo, ynghyd â deg Tref Sba Ewropeaidd arall, fel Safle Treftadaeth Byd ar y cyd yn dangos pwysigrwydd Caerfaddon fel un o’r “Trefi Sba Mawr” cynharaf a mwyaf arwyddocaol, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr rhyngwladol i wireddu arysgrif ar y cyd Caerfaddon.”

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, David TC Davies:

“Mae ennill Statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn gamp wych ac yn deyrnged arbennig i’r rhai a fu’n gweithio yn y chwareli llechi hyn. Hoffwn ganmol pawb sy’n gysylltiedig am eu hymrwymiad i sicrhau bod treftadaeth llechi Cymru a’r rôl y mae’r rhanbarth hwn wedi’i chwarae ers 1,000 o flynyddoedd yn cael y gydnabyddiaeth fyd-eang maen nhw’n ei gwir haeddu.”

 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r rhan hon o Ogledd Cymru wedi'i wneud i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol nid yn unig Cymru, ond y byd ehangach.  Gellir dod o hyd i lechi Cymreig ledled y byd. 

 "Mae chwarela a chloddio llechi wedi gadael gwaddol unigryw yng Ngwynedd, ac mae'r cymunedau'n falch iawn ohono. Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon heddiw gan UNESCO yn helpu i ddiogelu'r gwaddol a'r hanes yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu i adfywio yn y dyfodol. 

 "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn a'u llongyfarch – mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn glod i bawb sy'n gysylltiedig."

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:

"Mae Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yn falch iawn o fod wedi bod yn bartner allweddol yn y cais hwn ac wrth ei bodd gyda’r dynodiad llwyddiannus o dirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru fel safle Treftadaeth y Byd.  Bydd ei lwyddiant yn sicrhau bod effaith diwylliant a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal – gan gynnwys stori'r diwydiant llechi sy’n cael ei rannu yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis - yn cael ei chydnabod ledled y byd. Mae gennym dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol yng Nghymru ac mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol ar lwyfan rhyngwladol a bydd yn helpu i gadw'r etifeddiaeth a'r hanes mewn cymunedau am genedlaethau i ddod. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y cais hwn – mae'r cyhoeddiad heddiw yn glod i bawb sy'n gysylltiedig."

Dywedodd Kate Pugh OBE, Cyfarwyddwr Anweithredol Diwylliant yng Nghomisiwn UNESCO y DU:

“Mae’r arysgrif UNESCO hon yn gamp wych iawn sy’n cymharu ag ymdrech a dyfalbarhad y bobl a oedd yn byw yn y mannau syfrdanol hyn ac a oedd yn gweithio yn y chwareli llechi yma. Mae statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn galw am weledigaeth ysgogol, a dylid canmol pawb o Gyngor Gwynedd, ei bartneriaid a’r bobl sy’n byw yn yr aneddiadau hanesyddol hynny nawr am eu hymrwymiad cadarn i sicrhau’r gydnabyddiaeth fyd-eang y mae eu tirwedd yn ei llwyr haeddu.”

 

Dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Wigley (Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru:

"Ar ôl cadeirio Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru am dros 5 mlynedd, rwyf wrth fy modd gyda'r penderfyniad hwn gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd ac rwy'n croesawu ein harysgrifiad ar ran ein holl bartneriaid, tirfeddianwyr, cymunedau a busnesau.

 "Mae partneriaid wedi gweithio'n ddiflino dros fwy na degawd i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon, a bydd angen i ni nawr gryfhau ein cydweithrediad i sicrhau ein bod yn cyflawni dros bobl, cymunedau a busnesau'r ardaloedd llechi. Mae'r arysgrif hon yn ddathliad o Wynedd yn toi'r byd, ein hiaith unigryw, ein diwylliant a'n cymunedau a sut y gwnaethom allforio pobl, technoleg a llechi i bedair cornel y byd.

 "Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â datblygu'r arysgrif hon a chynnig fy llongyfarchiadau i Safle Treftadaeth y Byd mwyaf newydd Cymru".

 

Dywedodd Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Arweinydd Cyngor Gwynedd):

"Mae Cyngor Gwynedd yn hynod o falch o fod yn gorff arweiniol Tirwedd Lechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae effaith y chwareli yn parhau i fod yn amlwg iawn o'n cwmpas o'r dirwedd drawiadol, yr adeiladau diwydiannol a'r rheilffyrdd stêm i'n pentrefi a'n trefi.

 "Nid yn unig y mae dylanwad y diwydiant chwarela i'w weld, ond mae ei dreftadaeth yn dal i gael ei chlywed yn gryf yn iaith, traddodiadau a hanesion cyfoethog yr ardaloedd hyn.

 "Ein nod yw dathlu'r dreftadaeth a'r dirwedd hon a chydnabod eu pwysigrwydd hanesyddol a diwydiannol i ddynoliaeth – er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol".

 

Dywedodd Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet dros yr Economi a Chyfathrebu, Cyngor Gwynedd):

"Roedd diwydiant llechi'r ardal hon yn rhan hynod bwysig o'r economi fyd-eang yn y gorffennol, a heddiw mae'r diwydiant a'r rhai sy'n cael ysbrydoliaeth o'n tirwedd yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i economi Gwynedd.

 "Drwy ddathlu ein hanes, rydym am adfywio ein cymunedau a chreu cyfleoedd cyffrous er budd cymunedau a busnesau Gwynedd a Gogledd Orllewin Cymru yn y dyfodol.

 "Heddiw rydym yn dathlu'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac yn dechrau ar daith newydd i ddiogelu ein tirwedd llechi eithriadol a sicrhau etifeddiaeth barhaol i'n heconomi a'n cymunedau yn y dyfodol".

 

Dywedodd Christopher Catling, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y bu ei staff o gymorth wrth lunio’r ddogfen enwebu:

“Mae llafur a dyfeisgarwch dynol wedi creu tirwedd ryfeddol sy’n cyfuno nodweddion naturiol a rhai o waith dyn ac sy’n llwyr haeddu cael ei chynnwys yn yr haen uchaf o safleoedd treftadaeth y byd.’  

 “Mae tystiolaeth helaeth o’r broses gyfan o gynhyrchu llechi i’w gweld yn y fan hyn, o’r chwareli ar ochr y mynydd a’r cloddfeydd enfawr o dan y ddaear i’r cytiau injan, cytiau olwyn a melinau, wedi’u pweru gan systemau dŵr dyfeisgar, yr oedd eu hangen i weithio’r llechfaen, i’r incleiniau a’r rhaffyrdd awyr a ddefnyddid i gludo’r llechfaen a llechi gorffenedig o fryniau anghysbell i’r tramffyrdd, ac i’r rheilffyrdd cul a gludai’r llechi drwy’r dirwedd fynyddig anodd i’r porthladdoedd ym Mhorth Penrhyn a Phorthmadog i’w llwytho ar longau a hwyliai i bedwar ban byd.”

 

Dywedodd Tony Crouch, Cadeirydd Treftadaeth y Byd y DU

"Mae World Heritage UK yn croesawu Tirwedd Lechi Gogledd Orllewin Cymru yn gynnes i deulu'r DU o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r dirwedd aruthrol hon yn adlewyrchu cannoedd o flynyddoedd o ymdrech, arloesedd ac ysbryd cymunedol, ac yn cynhyrchu'r deunyddiau a'r sgiliau gorau a wasanaethodd y byd. Llongyfarchiadau i bawb yng Nghymru a weithiodd yn ddiflino i gyflawni'r anrhydedd ryngwladol haeddiannol hon."

 

Dywedodd Luke Potter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cynorthwyol yng Ngogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd nesaf Cymru; mae'r dynodiad yn golygu cymaint i ni yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Mae gennym straeon pwysig ym Mhenrhyn o lechi, yn ogystal â siwgr, a chaethwasiaeth. Mae bod yn rhan o'r dynodiad yn gyfle cyffrous i bob un ohonom i weithio gyda phartneriaid i uno'r ddwy stori hyn sydd wedi llunio'r cymunedau o'n cwmpas ac sy'n cael effaith bellgyrhaeddol ar gymunedau ledled y byd. Rydym eisoes wedi elwa'n fawr o fod yn rhan o ddatblygiad yr enwebiad a gweld pwysigrwydd cydweithio i adrodd y stori bwysig hon sy'n eiddo i ni i gyd yng Ngogledd Orllewin Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

"Rydym yn hynod o falch bod tirwedd lechi Gogledd Cymru wedi sicrhau ei statws Safle Treftadaeth y Byd heddiw. Mae'r diwydiant llechi wedi llunio a dylanwadu ar gymaint o'n tirwedd a'n traddodiadau, a bydd yr arysgrif hon yn sicrhau y bydd treftadaeth ddiwylliannol unigryw'r ardal yn cael ei diogelu a'i dathlu am flynyddoedd i ddod.

"Yn ogystal â helpu i hybu economi gynaliadwy o fewn yr ardal, bydd y dynodiad hwn hefyd yn meithrin ymwybyddiaeth, diddordeb a balchder yn ein treftadaeth lechi, tra'n ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am fodloni gofynion Confensiwn Treftadaeth y Byd yn y DU. Mae hyn yn cynnwys cynnal ac adolygu’r Rhestr Amodol o safleoedd, enwebu safleoedd newydd yn ffurfiol a sicrhau bod safleoedd presennol yn cael eu cadw, eu gwarchod ac yn rhan o fywyd y gymuned. 

Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, cestyll a muriau trefi’r drydedd ganrif ar ddeg a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yng Ngwynedd a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yw’r Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO eraill yng Nghymru.

Dyma’r Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO yn y DU a’r Tiriogaethau Tramor:

Diwylliannol:

  • Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (2000)

  • Palas Blenheim (1987)

  • Eglwys Gadeiriol Caergaint, Abaty St Augustine, ac Eglwys St Martin (1988)

  • Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd (1986)

  • Dinas Caerfaddon (1987)

  • Tirwedd Mwyngloddio Cernyw a Gorllewin Dyfnaint (2006)

  • Melinau Dyffryn Derwent (2001)

  • Castell Durham a'r Gadeirlan (1986)

  • Ffiniau’r Ymerodraeth Rufeinig (1987, 2005, 2008)

  • Ogof Gorham (2016)

  • Calon Cyfnod Neolithig Ynysoedd Orkney (1999)

  • Tref Hanesyddol St George a’r Ceyrydd Cysylltiedig, Bermuda (2000)

  • Ceunant Ironbridge (1986)

  • Greenwich Forwrol (1997)

  • New Lanark (2001)

  • Hen Dref a Thref Newydd Caeredin (1995)

  • Palas San Steffan ac Abaty San Steffan, gan gynnwys Eglwys St Margaret (1987)

  • Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (2009)

  • Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew (2003)

  • Saltaire (2001)

  • Côr y Cewri, Avebury a Safleoedd Cysylltiedig (1986)

  • Parc Brenhinol Studley gan gynnwys Adfeilion Abaty Fountains (1986)

  • Ardal y Llynnoedd yn Lloegr (2017)

  • Pont Reilffordd Forth (2015)

  • Tŵr Llundain (1988)

  • Arsyllfa Jodrell Bank (2019)


 

Naturiol:

  • Arfordir Dorset a Dwyrain Dyfnaint (2001)

  • Giant’s Causeway ac Arfordir Causeway (1986)

  • Ynysoedd Gough ac Inaccessible (1995, 2004)

  • Ynys Henderson (1988)
 
 Cymysg:
  • St Kilda (1986, 2004, 2005)