Datganiadau i'r Wasg

Comisiynau newydd i ail-fframio etifeddiaeth Thomas Picton yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Heddiw (5 Hydref) mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi dau gomisiwn newydd i artistiaid fydd yn ail-fframio etifeddiaeth Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815). Gobaith yr amgueddfa yw bod y comisiynau yn rhoi llwyfan i’r lleisiau a esgeuluswyd yn wreiddiol wrth adrodd stori Picton, neu’r rheiny a welodd yr effaith mwyaf ar eu bywydau o ganlyniad i waddol hynny. Wedi eu cwblhau, bydd y gweithiau comisiwn newydd yn dod yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru.

Gesiye

Aeloddau Laku Neg

Dyfarnwyd y ddau gomisiwn i Gesiye a Laku Neg fel rhan o brosiect mwy eang, Ail-fframio Picton, menter sy’n cael ei harwain gan grwpiau ieuenctid sy'n cynnwys Amgueddfa Cymru a’u partner cymunedol Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP).

Mae’r comisiynau yn dilyn galwad gan Amgueddfa Cymru yn Ionawr 2021 i artistiaid archwilio naratif gwahanol i’r rhai a gynrychiolir yn draddodiadol gan bortread yr Is-gadlywydd Syr Thomas Picton ac i ganoli profiadau Du. Mae’r portread gan Sir Martin Archer Shee wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ers ei sefydliad ym 1907.

Bydd y gweithiau newydd gan Gesiye a Laku Neg yn trafod naratif tras, cymodi, gweddnewid a grym. Bydden nhw’n herio'r naratif trefedigaethol sydd wedi bodoli yn draddodiadol yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd drwy roi llwyfan o hunaniaeth, profiadau a lleisiau Du.

Artist amlddisgyblaethol o Drinidad a Thobago yw Gesiye (ynganiad - gei-si-ai). Mae ei gwaith gydag unigolion a chymunedau yn ymdrin ag adrodd straeon, cysylltu, a chymodi ar draws sawl cyfrwng ac wedi'i sbarduno gan gariad a pharch dwfn at y ddaear. Mae ei gwaith comisiwn yn gwahodd pobl Ddu Trinidad i gyfrannu at offrwm cymodi, sy'n cynnwys cyfres o datŵs a sgyrsiau am eu cyswllt â'r tir.

Meddai Gesiye:

“Mae ein cysylltiad â’r gofodau rydyn ni’n cael ein geni iddyn nhw yn rhoi ymdeimlad o berthyn a chyfrifoldeb i’r tir hwnnw i ni. Pan fydd trawma yn effeithio ar y cysylltiad hwnnw, fel trawma caethwasiaeth a gwladychiaeth, rydym yn datblygu patrymau ymddygiad mewn perthynas â'r tir sydd wedyn yn cael ei basio i lawr trwy genedlaethau. Rwy'n rhagweld y darn hwn fel defod, cyfle iachâd i Trinidadiaid Du ail-gysylltu â nhw eu hunain, i'r ynys hon ac i'w gilydd. Nid ymgais i ail-ysgrifennu hanes yw’r gwaith hwn, mae’n tarfu ar y naratif sydd mor aml yn cael ei ddal i fyny fel gwirionedd unigol. ”

Cynrychiolir Laku Neg (Iard Ddu yn iaith Kwéyòl Haiti) gan 4 aelod o dras Trinidadaidd sy'n byw ac yn gweithio yn y DU. Mae'r grŵp yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiaspora Affrica drwy'r celfyddydau. Bydd eu comisiwn yn ail-gyflwyno Louisa a Present, dwy ferch ifanc a ddioddefodd dan awdurdod creulon Thomas Picton yn Nhrinidad.

Meddai Laku Neg:

“Rydyn ni'n croesawu cyfrifoldeb enfawr y project hwn, wrth i ni gydweithio ag Amgueddfa Cymru i gynnig darlun llawn i'r cyhoedd o hanes Cymru. Mae hwn hefyd yn waith cyndeidiol i ni. Rydyn ni'n cydnabod sut deimlad yw dod o ynysoedd y Byd Newydd ac yn anrhydeddu'r rhai a ddaeth o'n blaen - yn enwedig ein cynfamau. Ein bwriad yma yw creu gosodwaith ymdrwythol, sy'n taflu goleuni ar stori na wnaeth groesi'r Iwerydd yn un darn. Wrth ail-gyflwyno'r Caribî a'i gysylltiadau trefedigaethol, gobeithiwn sbarduno sgyrsiau treiddgar am bŵer, arwriaeth a gwirionedd.”

Mae'r grŵp project yn cynnwys Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru - rhwydwaith o bobl ifanc ar draws Cymru sy'n cydweithio i ddatblygu gweithgareddau, digwyddiadau a llawer mwy yn yr Amgueddfa -  ac aelodau o Rwydwaith Arweiniad Ieuenctid SSAP - rhwydwaith o bobl ifanc Affrica ar wasgar sy'n cyfuno profiadau bywyd, capasiti ac arbenigedd cymuned.

Meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

"I'r cydweithio positif rhwng Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Ieuenctid y Panel Cynghori Is Sahara mae'r clod bod y project wedi cyrraedd y pwynt pwysig o gyhoeddi'r artistiaid heddiw. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bobl ifanc Rhwydwaith Ieuenctid SSAP ar roi o'u hamser i weithio gyda'r Amgueddfa. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weld y gweithiau comisiwn yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac rydym yn gobeithio y bydd yn sbarduno sgwrs am sut rydyn ni'n rhannu persbectif a hanesion gwahanol Cymru mewn amgueddfa fodern.”

Meddai Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr gyda'r Panel Cynghori Is-Sahara:

“Y dyfnach yr astudiwch chi hanes, unrhyw fath o hanes, y mwyaf o haenau o wirionedd gaiff eu datgelu. Ac mae'n bwysig pwy sy'n chwilio, oherwydd mae pawb yn dod â gwybodaeth a phrofiadau bwyd gyda ni sy'n llywio ein gweld. Does dim cyfrinach taw prin yw'r hanes sydd wedi ei ysgrifennu gan bobl groenliw. Rydyn ni bellach mewn amser lle rydym yn hawlio ein naratif ac yn camu o gyrion hanes i'r canol. Mae ein partneriaeth â'r Amgueddfa yn gyffrous ac o fudd i'r gymuned a phawb sy'n ymwneud. Rydyn ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd, a neb yn ofni herio.”

Mae Picton wedi cael ei gydnabod ers tro fel arwr ond sydd hefyd yn adnabyddus am ei driniaeth greulon o gaethweision Du a phobl rydd, ac am ganiatáu artaith yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, 9 1797-1803. Derbyniodd yr alwad am geisiadau dros 50 o ymatebion, ac roedd cysylltiad uniongyrchol â Thrinidad gan fwyafrif yr artistiaid.