Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am dorri rheolau celf
Dyddiad:
2021-10-22Arddangosfa newydd yn pontio pum canrif o gelf ac yn dangos caffaeliadau mawr newydd am y tro cyntaf
Yn arddangosfa newydd sbon Rheolau Celf? (fydd ar agor o 23 Hydref 2021 i 16 Ebrill 2023) bydd Amgueddfa Cymru yn arddangos y casgliadau celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn ffordd fentrus newydd.
Dyma'r arddangosfa gelf fwyaf uchelgeisiol yn hanes yr amgueddfa, yn pontio'r casgliadau a'r canrifoedd, ac yn datgelu cysylltiadau newydd rhwng gweithiau celf o'r casgliad cenedlaethol a gofyn cwestiynau pwysig am gynrychiolaeth, hunaniaeth a'r byd sydd ohoni.
Bydd yr arddangosfa yn pontio pum canrif o baentio, darlunio, cerflunio, ffotograffiaeth, ffilm a cherameg, ac yn cynnwys gwaith gan artistiaid megis Rembrandt, Thomas Jones, Pablo Picasso, Gwen John, Bedwyr Williams, Helen Sear, Rachel Whiteread a Clare Woods. Bydd Rheolau Celf? hefyd yn cyflwyno am y tro cyntaf gaffaeliadau nodedig newydd gan John Akomfra (enillydd Artes Mundi 7 yn 2017), Caroline Walker, Zoe Preece (enillydd Medal Aur Crefft a Dylunio yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018), a Simon Ling.
Caiff y gweithiau eu dangos yn thematig, gan lynu at y Dilyniant Genre a gyflwynwyd gyntaf gan yr Academi Ffrengig yn y 17eg ganrif, sef: Paentio Hanesyddol, Portreadau, Golygfeydd Bob Dydd, Tirluniau a Bywyd Llonydd.
Bydd Rheolau Celf? yn cwestiynu'r hierarchaeth hon a'r grym cymdeithasol a gwleidyddol oedd yn sail iddo drwy arddangos y gweithiau mewn grwpiau amrywiol sy'n pontio casgliadau cyfoethog Amgueddfa Cymru o gelf hanesyddol, modern a chyfoes.
Ymhlith y gweithiau allweddol o'r casgliad cenedlaethol bydd Y Bardd gan Thomas Jones; Yn Nhŷ Fy Nhad gan Donald Rodney; Gwanwyn gan Maxiomilian Lenz wedi ei adewyddu; a Dideitl (Hanes), cerflun gan yr artist cyfoes Rachel Whiteread. Mae ffotograff teimladwy Donald Rodney yn dangos pa mor fregus yw bywyd, yn ogystal a hunaniaeth Ddu ac etifeddiaeth, ac yn adlewyrchu'i frwydr ag anaemia crymangell.
Darn allweddol ar fenthyg yn arddangosfa Rheolau Celf? yw Cyfweliad David Nott gan yr artist Bob & Roberta Smith - trawsgrifiad pum metr o daldra o'r sgwrs rhwng y darlledwr Eddie Mair a'r llawfeddyg ymgynghorol o Gymru, David Nott, sy'n son am ei brofiadau dirdynnol yn rhyfel Syria.
Neil Lebeter, Uwch Guradur, Celf Fodern a Chyfoes Amgueddfa Cymru sy'n gyfrifol am yr arddangosfa. Dywedodd Neil;
"Bwriad yr arddangosfa hon yw dathlu casgliad celf cenedlaethol Cymru, un o'r gorau yn Ewrop. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau am gonfensiynau'r byd celf sydd wedi siapio ein casgliad dros y ganrif ddiwethaf. Dylanwadodd y 'rheolau' yma ar waith artistiaid - boed yn nofio gyda, neu yn erbyn y lli - a sut mae amgueddfeydd wedi casglu ac arddangos eu gwaith. Ac mae Amgueddfa Cymru yn rhan bwysig o'r stori honno, a'n casgliad yn adlewyrchu'r hanes hwn. Casgliad sy'n cynrychioli, ond hefyd yn hepgor.
Dyma'r tro dyntaf i nifer o'r gweithiau yma gael eu harddangos gyda'i gilydd. Arbrawf cyffrous yw hwn yn ei hanfod, fydd yn creu cysylltiadau newydd ar draws y canrifoedd wrth amlygu rhai o faterion cymdeithasol ein byd ni heddiw. Rydyn ni'n aml yn meddwl am gelf fel cyfnodau penodol, gwahanol, hanesyddol. Mae'r arddangosfa hon yn cefnu ar y syniad hwn yn llwyr ac yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma ddechrau sgwrs, nid ei diwedd."
Meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:
"Mae'r arddangosfa hon yn ddetholiad cyfoethog o gasgliad elf cenedlaethol Cymru, ac yn ei arddangos mewn ffordd newydd, gyffrous. Bydd ymwelwyr yn gweld rhai o'u hoff weithiau mewn cyd-destun newydd, yn ogystal â phaentiadau sydd newydd eu hadfer a chaffaeliadau pwysig newydd. Casglu cyfoes Amgueddfa Cymru yw conglfaen ein casgliad cyfan, a gobeithiwn y bydd Rheolau Celf? yn amlygu'r parhad hwnnw, wrth ofyn i'n cynulleidfaoedd ystyried y 'rheolau' hynny, a'r arddangosfa ei hun.
"Mawr yw ein diolch i bob un o'n partneriaid a'n noddwyr, yn enwedig Ymddiriedolaeth Derek Williams, y Gronfa Gelf, Cymdeithas Gelf Gyfoes Cymru, y Gymdeithas Gelf Gyfoes ac Ymddiriedolaeth Colwinston, sydd wedi cydweithio â ni dros y blynyddoedd diwethaf i ddod â gweithiau gwych i ddwylo cyhoeddus er mwyn i bawb eu mwynhau. Hoffem ddiolch hefyd i Elusen Gwendoline a Margaret Davies ac Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs am eu cefnogaeth i'r project hwn."
I ategu'r arddangosfa, mae'r Amgueddfa wedi bod yn gweithio gydag artistiaid, sgwennwyr a phobl ifanc i greu cyfres o bodlediadau. Bydd y podlediadau yn trafod themâu’r arddangosfa ac yn adrych ar weithiau unigol a'u cyswllt atynt.
Bydd Amgueddfa Cymru hefyd yn cynhyrchu fideos i'w dangos ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan, fydd yn cynnwys cyfweliadau â churaduron ac artistiaid, ac yn esbonio mwy am gysyniadau a themâu'r arddangosfa. Mae digwyddiadau wedi'u trefnu i gyd-fynd â’r arddangosfa. Mae rhagor o wybodaeth a thocynnau ar gael ar wefan yr arddangosfa.