Digwyddiadau

Arddangosfa: Rheolau Celf?

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
23 Hydref 2021 – 4 Mehefin 2023, Bydd yr arddangosfa ar agor nes 9pm ar 6 Ebrill, 4 Mai ac 1 Mehefin
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Criw o ferched ifanc yn gwisgo du ac yn sefyll ger cronfa ddŵr ym Merthyr Tudful

Clémentine Schneidermann & Charlotte James – It’s Called Fashion (Look It Up), Merthyr (2016)
© Clémentine Schneidermann & Charlotte James

Gwanwyn gan Maximilian Lenz

Maximilian Lenz – Gwanwyn (Oddeutu 1904)
© Amgueddfa Cymru

Y Bardd gan Thomas Jones

Thomas Jones – Y Bardd (1774)
© Amgueddfa Cymru

Mwy o amser yn yr addangosfa!

Dewch i fwynhau arddangosfa Rheolau Celf? nes 9pm ar nos Iau gyntaf bob mis fel rhan o'n cynllun oriau ychwanegol, Mwy o Amser 

Mae Rheolau Celf? yn twrio drwy bum canrif o baentiau a darluniau, cerfluniau a cherameg, ffilm a ffotograffiaeth i holi cwestiynau pwysig am gynrychiolaeth, hunaniaeth a diwylliant.

Caiff y gweithiau eu trefnu mewn ffordd sy'n cwestiynu'r pŵer cymdeithasol a gwleidyddol a amlygir yn y gweithiau. Bydd yn dangos sut mae artistiaid drwy'r canrifoedd wedi parhau i herio, tanseilio ac ail-ddychmygu'r hyn y gall celf fod.

Caiff caffaeliad mawr newydd, Gogledd Cymru gan Chris Ofili, ei ddangos ochr yn ochr â gweithiau artistiaid megis Rembrandt, Thomas Jones, Pablo Picasso, Gwen John, Maximilian Lenz, Clare Woods, Bedwyr Williams, Caroline Walker a Clémentine Schneidermann.  

Bydd ystod o gelf hanesyddol, modern a chyfoes o gasgliadau Amgueddfa Cymru i'w gweld, a rhai gweithiau'n cael eu paru gyda'i gilydd am y tro cyntaf er mwyn creu perthynas newydd rhyngddynt ac amlygu rhai o faterion cymdeithasol ein byd ni heddiw.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gydag artistiaid ac awduron i arwain partneriaid cymunedol i ddehongli elfennau o'r arddangosfa. Bydd hwn yn arwain at ffordd newydd ac unigryw i ddod a llu o leisiau ynghyd i holi beth yw Rheolau Celf?

Beth yw Rheolau Celf?

Beth mae Rheolau Celf yn ei olygu? Pwy sy'n gosod y rheolau hyn? A sut mae artistiaid wedi herio ac atgyfnerthu'r rheolau dros y blynyddoedd?

Darganfyddwch fwy yn ein cyfres ffilm:

 

Digwyddiadau Cysylltiedig

 

PDF o destun oriel Rheolau Celf?

i wneud yr arddangosfa yn fwy hygyrch.

 

Podcast Rheolau Celf?

Mae'r podcast hwn yn ategu arddangosfa Rheolau Celf? yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac wedi'i ariannu gan Grant Tynnu'r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Arweinydd y bennod hon yw'r bardd a'r sgwennwr Grug Muse sy'n trafod gyda chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru Talulah Thomas, Cerys John a Breifni Hedd. Recordiwyd a golygwyd y podcast hwn gan Catrina Morgan.

Mae'r podcast yn trafod dau waith – Tyrrau Mawr gan Bedwyr Williams a Tirlun Cymreig gyda Dwy Ddynes yn Gweu gan William Dyce.

Mae Môr Vertigo yn eiddo ar y cyd i oriel gelf Towner ac Amgueddfa Cymru. Caffaelwyd gyda chymorth y Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Sefydliad Wolfson), Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Search drwy'r Gymdeithas Gelf Gyfoes a Chronfa Ddatblygu Casgliad Towner, 2019.

Cefnogir Rheolau Celf? gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs a Colwinston Charitable Trust.

 

Digwyddiadau