Datganiadau i'r Wasg

Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan

Yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 ac 11 Medi, gyda gwledd o gynhyrchwyr lleol, cerddoriaeth a hwyl i'r teulu cyfan.

Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru

Gyda pizza, pwdin a phicls i gyd ar y fwydlen, cynhelir yr ŵyl fwyd yn fyw eleni, wedi dwy flynedd o ddigwyddiadau digidol o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i'w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol. Cynhelir digwyddiadau i'r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw'r rhai bach yn brysur! Bydd cerddoriaeth fyw gan gynnwys canu gwerin, pop a roc, gan lu o dalentau Cymru wedi'u curadu mewn partneriaeth â Gorwelion BBC a Tafwyl.

Meddai Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:

"Mae’n bleser gallu croesawu ymwelwyr yn ôl i Sain Ffagan i fwynhau'r Ŵyl Fwyd yn fyw eleni. Edrychwn ni ymlaen at ddathlu gwledd o gynhyrchwyr Cymreig a thalent amrywiol o bob cwr o Gymru. Gall ymwelwyr ddisgwyl bwyd arbennig, cerddoriaeth wych a digonedd o weithgareddau i'r teulu oll."

O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, dyma rai o'r stondinau fydd yma i'ch temtio:

A Bit of a Pickle, Bab Haus, Blighty Booch Kombucha, Captain Joys, Drop Bear Beer, Ffwrnes Pizza, Little Grandma's Kitchen, Maggie's African Twist, Mr Croquewich, Quantum Coffee Roasters, SamosaCo, The Queen Pepiada, The Gin Tin, The Pudding Wagon, Williams Brothers Cider a llawer mwy.

Dwedodd Ieuan Harry o gwmni pizza Ffwrnes: 

"Rydym yn gyffrous i ddychwelyd i Sain Ffagan ar gyfer Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru eto eleni. Mae'r ŵyl fwyd yn un o uchafbwyntiau ein calendr, ac fel busnes lleol o Gaerdydd, mae'n wych bod yr amgueddfa'n gallu croesawu cymaint o amrywiaeth o dalent bwyd o Gymru."

Bydd cynaliadwyedd wrth wraidd y digwyddiad eleni, ac mae Amgueddfa Cymru yn cydweithio â Bwyd Caerdydd fydd yn rhedeg ardal gweithgaredd ‘Bwyd Da’ i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o uchelgais Caerdydd i fod yn un o lefydd bwyd mwyaf cynaliadwy'r DU. Bydd FareShare Cymru yn casglu a dosbarthu bwyd dros ben o stondinwyr y digwyddiad, i sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd i wastraff.

Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6pm ar y ddau ddiwrnod, er mwyn i ymwelwyr wneud y mwyaf o'r ŵyl.

Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan a pharcio yn costio £6. Mae manylion llawn ar wefan Gŵyl Fwyd | Amgueddfa Cymru.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Adfer Gwyliau Bwyd 2022 Bwyd a Diod Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.