Datganiadau i'r Wasg
Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan
Dyddiad:
2022-09-06Bydd llu o gerddorion talentog yn perfformio yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, fydd yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 ac 11 Medi.
Gyda pizza, pwdin a phicls i gyd ar y fwydlen, cynhelir yr ŵyl fwyd yn fyw eleni, wedi dwy flynedd o ddigwyddiadau digidol o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i'w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol.
Bydd cerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan gan lu o dalentau Cymru wedi'u curadu mewn partneriaeth â Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Gorwelion BBC a Tafwyl. Ymhlith y perfformwyr ar Lawnt Gwalia bydd Codewalkers, Hyll, Lily Beau, Parisa Fouladi, DJs Gorwelion, DJs PYST yn dy GLUST a llawer mwy! Ar lwyfan Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn Llys Llywelyn, gall ymwelwyr fwynhau perfformiadau gan Banshi, Hana Lili, Craven, Small Miracles a mwy.
Cynhelir digwyddiadau i'r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr Amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw'r rhai bach yn brysur!
Noddir y gweithgareddau addysg fydd ar gael dros y penwythnos gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. O wneud menyn i odro gwartheg a choginio ryseitiau o oes Fictoria, gall ymwelwyr fwynhau camu’n ôl mewn amser.
Meddai Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:
"Mae’n bleser gallu croesawu ymwelwyr yn ôl i Sain Ffagan i fwynhau'r Ŵyl Fwyd yn fyw eleni. Edrychwn ni ymlaen at ddathlu gwledd o gynhyrchwyr Cymreig a thalent amrywiol o bob cwr o Gymru. Gall ymwelwyr ddisgwyl bwyd arbennig, cerddoriaeth wych a digonedd o weithgareddau i'r teulu oll."
O brydau traddodiadol Cymru i fwyd stryd blasus, dyma rai o'r stondinau fydd yma i'ch temtio:
A Bit of a Pickle, Bab Haus, Blighty Booch Kombucha, Captain Joys, Drop Bear Beer, Ffwrnes Pizza, Little Grandma's Kitchen, Maggie's African Twist, Mr Croquewich, Quantum Coffee Roasters, SamosaCo, The Queen Pepiada, The Gin Tin, The Pudding Wagon, Williams Brothers Cider a llawer mwy.
Bwyd Caerdydd fydd yn rhedeg ardal gweithgaredd ‘Bwyd Da’ i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o uchelgais Caerdydd i fod yn un o lefydd bwyd mwyaf cynaliadwy'r DU.
Meddai Pearl Costello, Cydlynydd Llefydd Bwyd Cynaliadwy gyda Bwyd Caerdydd:
"Mae ardal Bwyd Da Caerdydd yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddathliad o fudiad tyfu bwyd da yn y ddinas, ac yn bwysicach, yn gyfle i bawb ddysgu mwy am beth maen nhw'n ei fwyta a gwella eu sgiliau coginio a thyfu bwyd.
Mae Bwyd Caerdydd yn falch iawn o gydweithio ag Amgueddfa Cymru a grwpiau cymunedol ar draws y ddinas i ddangos bod Caerdydd ar ei ffordd at fod yn lleoliad bwyd mwyaf cynaliadwy y DU."
Bydd FareShare Cymru yn casglu a dosbarthu bwyd dros ben o stondinwyr y digwyddiad, i sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd i wastraff.
Bydd yr Amgueddfa ar agor tan 6pm ar y ddau ddiwrnod, er mwyn i ymwelwyr wneud y mwyaf o'r ŵyl.
Mae mynediad am ddim i Sain Ffagan a pharcio yn costio £6. Mae manylion llawn ar wefan Gŵyl Fwyd | Amgueddfa Cymru
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Adfer Gwyliau Bwyd 2022 Bwyd a Diod Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydym yn croesawu pawb o bob cymuned am ddim, diolch i nawdd Llywodraeth Cymru.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.