Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn Sain Ffagan yn dathlu cefnogwyr pêl-droed Cymru

I ddathlu’r ffaith fod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA, bydd arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn rhoi sylw i rai o bobl a chymunedau’r Wal Goch. 

Bydd Lleisiau’r Wal Goch yn agor yn Sain Ffagan ar 19 Tachwedd, a bydd i’w gweld tan 17 Ebrill 2023. 

Mae’r arddangosfa yn rhan o Ŵyl Cymru, digwyddiad creadigol i ddod â chymunedau ynghyd i gefnogi tîm Cymru wrth iddynt gystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar.

Y Wal Goch yw’r enw ar gefnogwyr ein timau cenedlaethol. Yn eu crysau coch a’u hetiau bwced, maen nhw’n llenwi’r stadiwm â’u canu, ac yn rhoi hwb a hyder i’r chwaraewyr ar y cae.

 

Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar ffasiwn, cerddoriaeth, hunaniaeth a gwleidyddiaeth ffans Cymru. Ymysg y straeon mae profiadau cefnogwyr yn Ewro 2016, ac eiliadau cofiadwy fel perfformiad arbennig Dafydd Iwan o ‘Yma o Hyd’ cyn y gemau ail-gyfle tyngedfennol yn erbyn Awstria ac Wcráin.

 

Gofynnodd yr Amgueddfa i ffans rannu lluniau ar gyfer yr arddangosfa, a chafwyd llu o ymatebion. 

 

Straeon y cefnogwyr sy’n serennu yn yr arddangosfa hon, ac mae cyfraniadau gan Wal yr Enfys, Spirit of ‘58, Amar Cymru, The Barry Horns, Gôl Cymru! a llawer mwy.

Ymysg yr eitemau sydd i’w gweld mae baneri wedi’u benthyg gan gefnogwyr, trwmped wedi’i roi gan The Barry Horns, a chrys wedi’i lofnodi gan dîm cenedlaethol menywod Cymru.

 

Hefyd yn yr arddangosfa mae penynau a rhaglenni a roddwyd i dîm Cymru yn ystod Cwpan y Byd 1958, ar fenthyg o Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru. 

Dywedodd Elen Phillips, Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol: 

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Gymru a ninnau’n cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA, ac felly mae’n briodol ein bod yn dathlu cyfraniad y Wal Goch i lwyddiant diweddar y tîm. 

Rydyn ni wedi casglu eitemau gan gefnogwyr yn barod, a byddwn yn casglu lluniau gan y Wal Goch yn ystod Cwpan y Byd, er mwyn i ni allu parhau i ddogfennu profiad y ffans.”

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac rydym yma i bawb o bob cymuned. 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

 

DIWEDD