Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yn Ne Cymru a Phowys

Mae pedwar canfyddiad, gan gynnwys celc o’r Oes Efydd, dwy fodrwy arian Rufeinig a broetsh arian canoloesol, wedi eu datgan yn drysor ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 gan Patricia Morgan, Crwner Ardal Canol De Cymru.⁠ ⁠

Celc o ddiwedd yr Oes Efydd 

Darn o fodrwy arian Rufeinig

Broetsh arian canoloesol

Darn o fodrwy arian Rufeinig

Derbyniodd Mark Lodwick a Dr Susie White, o Gynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), adroddiad am y canfyddiadau hyn, ac fe wnaethon nhw eu nodi fel trysor posibl. 

Cafodd celc o ddiwedd yr Oes Efydd (Achos Trysor 21.24) ei ddarganfod gan Dr Peter Anning ac Alex Evans ar 2 Chwefror 2021, ar ôl i waith draenio amaethyddol gael ei wneud mewn cae yng nghymuned Sain Ffagan, Caerdydd.⁠ ⁠Mae’r celc yn cynnwys darnau o 38 arteffact efydd, gan gynnwys bwyelli socedog, pennau gwaywffyn, amrywiaeth o jetiau castio a darnau o ingot. Ymysg yr eitemau mwy anarferol mae amgarn o waelod gwain cleddyf, gaing socedog ar gyfer gwaith coed a dwy fodrwy efydd, a ddefnyddiwyd o bosib fel ffitiadau harnais ceffyl. 

Mae’r celc yn dyddio o rhwng 1000 ac 800 CC ac mae’n debyg y cafodd ei gladdu yn fwriadol o fewn un twll yn y ddaear. Byddai wedi bod yn bosibl aildoddi’r metel yn wrthrychau efydd newydd, felly roedd y penderfyniad i gladdu’r gwrthrychau yn fwriadol. Mae’n debygol fod y gwrthrychau efydd hyn wedi’u casglu at ei gilydd gan gymuned leol a’u claddu yn ystod seremoni ddefodol oedd yn mynegi arferion cymdeithasol a chredoau’r cyfnod. 

Dywedodd Chris Griffiths, ymchwiliwr sy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Reading: 

“Mae’r casgliad hwn o ddarnau bach o arteffactau yn cynnig cipolwg diddorol ar gyfoeth bywyd yng nghyffiniau Caerdydd tua diwedd yr Oes Efydd. Mae’r amgarn ac un o’r darnau bwyell socedog yn fwy anarferol ac o ddiddordeb arbennig, gyda’r darnau bwyell socedog yn debygol o fod wedi’u gwneud a’u mewnforio o dde-ddwyrain Lloegr. Drwy’r eitemau hyn, rydyn ni’n cael cipolwg ar y niferoedd o gysylltiadau â chymunedau pell, a fyddai wedi helpu pobl i ffynnu yn y rhan hon o’r wlad, tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.” 

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes, Amgueddfa Cymru:

“Mae hwn yn gelc sylweddol o ddiwedd yr Oes Efydd o dde-ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o offer, arfau a chynnyrch castio efydd. Mae’n ychwanegu at ddarlun rhanbarthol ehangach o bobl yn dewis claddu llawer o gelciau efydd ar yr adeg hon, yn aml wrth ymyl afonydd a nentydd. Mae’r canfyddiad hwn yng nghymuned Sain Ffagan yn ychwanegu at glwstwr hysbys o gelciau a ddaethpwyd o hyd iddyn nhw ar hyd afon Elái a’i his-afonydd. Bydd ei ychwanegu at y casgliad cenedlaethol yn ein helpu i gyflwyno archaeoleg cynhanesyddol y dirwedd mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi’i lleoli ynddi.” 

Mae Amgueddfa Cymru wedi dangos diddordeb mewn caffael y celc, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor. 

Dywedodd Dr Peter Anning, darganfyddwr tri o’r pedwar trysor: 

“Dwi ddim yn siŵr sut dwi wedi dod o hyd i gymaint o drysorau mewn cyfnod mor fyr! Dwi’n falch fod y canfyddiadau’n cael eu caffael gan Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa’r Bont-faen a dwi’n gobeithio y bydd y cyhoedd a’r amgueddfeydd yn cael budd o’u cael yn eu casgliadau.”

Canfuwyd darn o fodrwy arian Rufeinig (Achos Trysor 22.37) gan Dr Peter Anning ym mis Ebrill 2020, tra’n defnyddio datgelydd metel ar dir âr yng nghymuned Sain Nicolas a Tresimwn, Bro Morgannwg. Mae’r cantel hirgrwn canolog ar y fodrwy wedi’i arysgrifio arno â dyluniad cangen palmwydd, sy’n ei ddyddio i’r 2il neu’r 3ydd ganrif OC.⁠ ⁠⁠ ⁠ 

Canfuwyd broetsh arian canoloesol (Achos Trysor 22.18) gan Dr Peter Anning ar 12 Chwefror 2022, tra’n defnyddio datgelydd metel ar gae wedi ei droi yng nghymuned Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg.⁠ ⁠ Roedd y pin plaen wedi’i atodi i’r froetsh arian gylchog ar ryw adeg ac yn dyddio i’r 13eg neu 14eg ganrif.⁠ ⁠⁠ ⁠ 

⁠Mae Amgueddfa’r Bont-faen a’r Ardal wedi dangos diddordeb mewn caffael y fodrwy a’r froetsh, wedi iddynt gael eu prisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Canfuwyd darn o fodrwy arian Rufeinig (Achos Trysor 22.66) gan Richard Murton ar 6 Tachwedd 2022, tra’n defnyddio datgelydd metel ar dir pori yng nghymuned Llanfechain, Powys.⁠ ⁠Mae gan y fodrwy, o’r ganrif 1af neu’r 2il ganrif OC, ysgwyddau addurnedig wedi’u mowldio a gosodiad canolog llydan, sydd bellach yn wag. Yn wreiddiol, byddai hwn wedi dal gosodiad carreg lled-werthfawr neu wydr, a fwy na thebyg gyda motiff wedi’i naddu. 

Mae’r Lanfa, Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng wedi dangos diddordeb caffael y darn o fodrwy, wedi iddi gael ei phrisio’n annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysorau. 

Dywedodd David Howell, Swyddog Ymgysylltu Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru): 

“Am 25 mlynedd mae PAS Cymru wedi bod yn diogelu a gofalu am wybodaeth am archaeoleg Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn mae PAS Cymru wedi cofnodi dros 90,000 o arteffactau, gan adeiladu cysylltiadau â’r gymuned datgelyddwyr metel a chanfyddwyr yn gyffredinol, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am hanes ac archaeoleg Cymru yn cael ei chofnodi a’i rhannu â’r genedl.”

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.  

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.  

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  

www.amgueddfa.cymru