Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Cymru yn caffael Môrwelion gan Garry Fabian Miller ar gyfer y casgliad
Dyddiad:
2023-12-14Mae gwaith o 40 o ffotograffau gan Garry Fabian Miller – un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain – wedi cael ei gaffael gan Amgueddfa Cymru ar gyfer ei chasgliad parhaol.
Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael project mawr cyntaf Garry Fabian Miller, Môrwelion, diolch i gefnogaeth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams. Mae Môrwelion yn gyfres o bedwar deg print cibachrome a dynnwyd rhwng 1976 a 1977 o do tŷ yr artist yn Clevedon. Mae'r olygfa yn edrych ar draws Môr Hafren tua Chymru, a'r ffotograffau i gyd wedi'u tynnu o'r un safle ar amserau gwahanol o'r dydd ac mewn gwahanol dywydd.
Mae pob ffotograff ar ffurf sgwâr, gyda'r gorwel yn rhannu'r môr a'r awyr. Y canlyniad yw cyfres o bortreadau sydd yn dechnegol unfath ond eto'n hollol unigryw. Dyma Gymru o bersbectif anarferol, anghyfarwydd, sy'n annog y gynulleidfa i ystyried hunaniaeth, ffiniau, ac ymdeimlad o le. Bron i hanner canrif wedi'r ffotograffau, mae'r gwaith yn cael bywyd newydd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a chodi lefel y môr, a breuder cynyddol cymunedau arfordirol.
Mae Garry Fabian Miller yn adnabyddus am ei ffotograffau di-gamera ac er i Môrwelion, fel un o'i brojectau cynharaf, gael ei gwblhau gyda chamera, fe ysbrydolodd dechneg sydd wedi llywio ei yrfa gyfan. Dangoswyd y gyfres gyda'i gilydd am y tro cyntaf yn arddangosfa Môrwelion/The Sea Horizon, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 18 Chwefror a 10 Medi 2023.
Roedd 2023 yn ddathliad o fywyd a gwaith Garry Fabian Miller. Cyflwynwyd arddangosfa o'i yrfa, ADORE, yn Arnolfini rhwng 18 Chwefror a 28 Mai, ac arddangosfa a cyhoeddwyd ei gofiant, The Dark Room, fel rhan o'i Gymrodoriaeth Anrhydeddus yn Llyfrgell Bodleian, Prifysgol Rhydychen.
Dywedodd Garry Fabian Miller,
"Môrwelion oedd y peth cyntaf wnes i, gan fy helpu i ffeindio 'nhraed yn y byd. Dyma nhw'n fy helpu i ddeall y gallai edrych ar draws y dŵr tua'r gorwel bontio, a dangos fy ffordd i fi. I fi, mae hyn yn llawn gobaith am sut all bywyd gael ei siapio. Mae hefyd yn teimlo fel penllanw – bod y gwaith wedi cyrraedd adref mewn ffordd na allwn i fyth wedi ei ddychmygu. Y peth cyntaf a wnes i erioed yn bodoli yn y lle mae'n ei bortreadu.
Dywedodd Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth Amgueddfa Cymru,
"Mae'n bleser caffael Môrwelion ar gyfer casgliad Amgueddfa Cymru ar ôl ei dangos yn oriel ffotograffiaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gynharach eleni. Roedd hi'n arddangosfa deimladwy, wnaeth ddal dychymyg ein hymwelwyr a chodi cwestiynau. Mae'n waith pwysig mewn sawl ffordd, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams am eu cefnogaeth hael a wnaeth y caffaeliad hwn yn bosibl.”
Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr Art Fund:
“Mae’r gyfres ryfeddol hon o 40 o ffotograffau gan Garry Fabian Miller yn cyflwyno persbectif o Gymru sy’n fyfyriol ac yn swynol. Rwy’n falch iawn bod Art Fund wedi gallu cefnogi Amgueddfa Cymru i brynu Morwelion ar gyfer y casgliad, lle bydd yn ysbrydoli ymwelwyr o Gymru a thu hwnt.”
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.
Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Diwedd