Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 ar ddydd Mawrth 19 Rhagfyr, yn cynnwys toriad o 10.5% i gyllid Amgueddfa Cymru. Mae hyn yn rhan o doriadau sylweddol ar draws holl bortffolios Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â diffyg mawr yng nghyllideb y Llywodraeth.
Dyma’r toriad mwyaf i gyllideb yn hanes yr amgueddfa, a bydd yn cael effaith fawr ar waith Amgueddfa Cymru o ddydd i ddydd. Er mwyn sicrhau y gall y sefydliad barhau i weithredu o dan y gyllideb newydd, mae Amgueddfa Cymru yn gorfod ystyried gwahanol ffyrdd o arbed arian, gan gynnwys newid trefniadau gweithredu, cau gwasanaethau, ac o bosibl golli swyddi.
Mae hwn yn gyfnod cythryblus i Amgueddfa Cymru, a’r flaenoriaeth gyntaf dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod yw darparu gofal a chefnogaeth i’n staff a’n gwirfoddolwyr. Byddwn hefyd yn ymgynghori â’r undebau llafur drwy gydol y broses.
Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru:
“Rhaid i ni sylweddoli y bydd effeithiau hirdymor y toriadau hyn ar Amgueddfa Cymru, a’r sector diwylliant yng Nghymru, yn sylweddol. Rydyn ni eisoes yn gweithio mewn hinsawdd economaidd hynod heriol ar ôl Covid, wrth i ni geisio rheoli risgiau er mwyn gwarchod, diogelu a hyrwyddo’r casgliad cenedlaethol.
“Mae’r sefyllfa hon yn heriol i bawb, ac rydyn ni’n cydnabod y bydd rhaid i ni wneud penderfyniadau ariannol anodd. Byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein pwrpas creiddiol, sef ysbrydoli addysg a mwynhad i bawb drwy gyfrwng casgliad cenedlaethol Cymru.”
Mae Amgueddfa Cymru yn croesawu dros 1.3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn i’w saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, ac yn gyfrifol am warchod a gofalu am gasgliad cenedlaethol Cymru – dros 5 miliwn eitem o bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol. Yr Amgueddfa yw un o ddarparwyr mwyaf Cymru o addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth – bob blwyddyn bydd dros 200,000 o blant a phobl ifanc yn defnyddio adnoddau addysg yr Amgueddfa, sy’n seiliedig ar y casgliadau.
Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Hydref fod toriadau ar y ffordd, mae Ymddiriedolwyr ac uwch dîm Amgueddfa Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer newidiadau mawr. O dan y teitl ‘Llywio ein Dyfodol’, bydd y sefydliad yn cychwyn ar raglen sylweddol fydd yn cynllunio a sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Amgueddfa Cymru.
Dywedodd Jane Richardson:
“Rhaid i ni edrych eto ar beth yw Amgueddfa Cymru, beth ydyn ni’n ei gynrychioli, a beth ydyn ni’n ei gyflawni. Mae gwahanol gyfleoedd ac opsiynau i’w hystyried, ond nid yw am fod yn hawdd ac mae llawer mwy o heriau ar y gorwel.
“Mae’r casgliad cenedlaethol yn drysor diwylliannol gwerthfawr sy’n perthyn i holl bobl Cymru. Mae’n adnodd i bawb ei fwynhau a’i brofi yn eu cymunedau, yn ein teulu o amgueddfeydd, ac yn ddigidol. Mae’n cynrychioli ac yn dathlu celf, hanes, gwyddoniaeth a diwylliant amrywiol Cymru. Mae felly yn hollbwysig ein bod yn taclo’r her ariannol hon gyda’r nod o greu Amgueddfa Cymru sy’n ffit i’r dyfodol.”
Nodiadau i Olygyddion