Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae un o hoff baentiadau Amgueddfa Cymru yn teithio i Baris er mwyn cymryd rhan flaenllaw mewn arddangosfa i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sioe gyntaf yr Argraffiadwyr.
Mae La Parisienne,gan Renoir (y Fenyw Las), yn mynd ar fenthyg i'r Musee D'Orsay fel rhan o arddangosfa Paris 1874: Inventing Impressionism sy'n agor ar 26 Mawrth eleni. Bydd yr arddangosfa wedyn yn symud i'r National Gallery of Art yn Washington ym mis Medi.
Bydd gwaith enwog Renoir yn ymddangos ochr yn ochr â gweithiau artistiaid fel Monet a Cezanne – rhai o gyd-sylfaenwyr y mudiad Argraffiadol a gynhaliodd eu harddangosfa gyntaf ym 1874.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Kath Davies:
"Anaml fydd y Fenyw Las yn gadael Cymru gan taw hi un o'n hatyniadau mwyaf poblogaidd ac mae llawer yn ymweld â'r Amgueddfa'n unswydd i'w gweld hi. Ond ar achlysur arddangosfa arbennig i ddathlu blwyddyn ei chreu mae'n gyfle i La Parisienne ddychwelyd at ei gwreiddiau, mwynhau cwmni hen ffrindiau, a diddanu miloedd o ymwelwyr Paris. Bon voyage i'r hen ferch!"
Daeth La Parisienne yn rhan o gasgliad celf Amgueddfa Cymru yn y 1960au fel rhan o gymynrodd Margaret a Gwendoline Davies. Fe deithiodd y chwiorydd Davies yn helaeth a chasglu amrywiaeth eang o baentiadau a dyfodd yn un o gasgliadau celf preifat pwysicaf Ewrop.
Bydd un o weithiau Edward Degas, Menyw yn y Baddon yn cael ei ddangos yn lle La Parisienne am y tro.
Nodiadau i Olygyddion
Cyfrannwch heddiw
Prynwch gopi o La Parisienne