Datganiadau i'r Wasg
Datganiad Amgueddfa Cymru: Cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Dros Dro - Diweddariad
Dyddiad:
2025-02-03Ar ddydd Sul 2 Chwefror, bu'n rhaid i Amgueddfa Cymru gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i'r cyhoedd am gyfnod byr er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar unwaith.
Roedd hyn oherwydd problem fecanyddol gafodd ei hachosi gan fethiant cydran, a hynny mewn ardal benodol o fewn yr adeilad. Mae ein timoedd yn gweithio'n ddyfal i ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithiol yn ogystal â sicrhau'r effaith lleiaf posibl ar ein hymwelwyr.
Rydyn ni'n gweithio'n agos gydag arbenigwyr er mwyn asesu'r sefyllfa a thrwsio'r mecanwaith. Diogelwch a lles ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff, a diogelu ein casgliadau, yw ein prif flaenoriaeth, a dyma'r rheswm dros gymryd y camau priodol a chau'r amgueddfa dros dro.
Byddwn ni'n parhau i asesu'r sefyllfa gan gyhoeddi'r diweddaraf am y cynnydd, ond rydym yn gobeithio y caiff y materion hyn eu datrys dros y dyddiau nesaf.
Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi dealltwriaeth a chefnogaeth ein hymwelwyr ac yn edrych ymlaen at eich croesawu'n ôl yn fuan.
Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Ar gyfer ymwelwyr sydd wedi archebu tocynnau i ymweld a’n harddangosfa Streic!, byddwn yn hapus i gyfnewid eich tocynnau ar gyfer dyddiad yn y dyfodol unwaith y bydd yr amgueddfa yn ailagor neu ddarparu ad-daliad llawn. Am ragor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk
Diolch am eich cydweithrediad a'ch amynedd.
Amgueddfa Cymru