Datganiadau i'r Wasg

I'r Lleuad a nôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae pawb yn edrych ymlaen wrth i Amgueddfa’r Lleuad Luke Jerram lanio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Mawrth.  

y Lleuad yn Eglwys Trelai

Y Lleuad yn Eglwys Trelai © James Billings

Luke Jerram o'r blaen y Lleuad

Luke Jerram Amgueddfa'r Lleuad

Silwetau o popl yn sefill o flaen y Lleuad

Amgueddfa'r Lleuad gan Luke Jerram. Cork Midsummer Festival, UK, 2017

O 10 Mawrth i 13 Ebrill, gall ymwelwyr edmygu gosodwaith saith metr o'r Lleuad, a grëwyd gan ddefnyddio delweddau manwl NASA sy'n dangos y Lleuad mewn eglurder rhyfeddol. 

Bydd Amgueddfa’r Lleuad yn hongian uwchben Prif Neuadd yr Amgueddfa, gan gyfuno celf, gwyddoniaeth a thrac sain atmosfferig i greu profiad bythgofiadwy gall ymwelwyr ymgolli ynddo.  

Dywedodd Luke Jerram: "Astudiais i Gelf Gain yn y brifysgol sydd bellach yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac roeddwn i'n arfer ymweld â'r Amgueddfa bob penwythnos i syllu mewn rhyfeddod ar y gelf anhygoel oedd yna. Felly, ryw 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n fraint fawr gwybod bydd fy ngwaith celf mewn sefydliad oedd mor ddylanwadol ar fy natblygiad fel artist. Rydw i wedi cyffroi i weld sut olwg fydd ar y Lleuad mewn lle mor anhygoel fel y Brif Neuadd. 

I ddathlu Amgueddfa'r Lleuad yn cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ar thema'r Lleuad, gan gynnwys: 

Ioga Dan y Lloer gyda'r hyfforddwraig Eleri Morgan.

Disgo Tawel: Dawnsio yng Ngolau'r Lleuad, mewn partneriaeth â Motel Nights.

Stori Amser Gwely gyda Babis Bach Babies, yn dod â Beth Nesaf? Jill Murphy yn fyw⁠.

Ac os nad yw hynny'n ddigon, gall ymwelwyr weld darn o garreg go iawn o'r Lleuad yn oriel Esblygiad Cymru. Mae'r sampl prin hwn o daith Apollo 12 yn gyfle rhyfeddol i drin a thrafod darn go iawn o wyneb y Lleuad. 

Dywedodd Mared Maggs, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: 

“Rydyn ni wedi cyffroi fod y gosodwaith anhygoel hwn yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd! Mae'r arddangosfa’n addo profiad gweledol syfrdanol i ymwelwyr fydd hefyd yn creu atgofion bythgofiadwy ac yn tanio'r dychymyg. Cadwch lygad am ein rhaglen llawn hwyl o ddigwyddiadau rhyngweithiol, gweithdai teuluol a pherfformiadau cyfareddol.” 

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bellach wedi cyflwyno tocyn mynediad cyffredinol am ddim gan ei gwneud hi'n haws i ymwelwyr gynllunio a mwynhau yn yr Amgueddfa. 

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim, ond drwy archebu tocyn ymlaen llaw byddwch chi'n derbyn diweddariadau a gwybodaeth ddefnyddiol am weithgareddau, digwyddiadau a nwyddau cyn i chi ymweld, gan ei gwneud hi'n haws cynllunio a mwynhau eich amser yn yr Amgueddfa. 

Archebwch eich tocynnau gyffredinol yma: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Tocynnau Dyddiol | Amgueddfa Cymru

Yn ogystal â thocynnau i'r Lleuad, gall ymwelwyr gwrdd â Tom Bones y Mamoth, ymweld â Hip Hop: Stori Cymru (yn rhedeg tan 22 Chwefror) ac edrych o gwmpas y nifer fawr o orielau sydd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i'w cynnig. ⁠

Mae tocynnau ar gael i'w harchebu nawr. Am ragor o wybodaeth ac i archebu, ewch i Digwyddiadau | Museum Wales ar ein gwefan. 

Notes to editors

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei mwynhau.  Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned. Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.  www.amgueddfa.cymru