Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Oriel y Parc, Tyddewi
Amgueddfa Stori Caerdydd
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rydym ni'n falch o'n hymrwymiad i sicrhau mynediad mor eang â phosib i’r casgliadau cenedlaethol.
Rydym ni wedi datblygu dau gynllun partneriaeth yn arbennig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau lleol Cymru:
a
.
Yn ogystal, rydym ni’n cydweithio’n agos mewn ffyrdd eraill gyda phartneriaid rhanbarthol allweddol trwy Gymru gan gynnwys Oriel y Parc, oriel Awdurdod Parc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Stori Caerdydd.
Bu’r gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ers pedair mlynedd, a bu tîm Stori Caerdydd yn gweithio’n agos â staff Amgueddfa Cymru drwy gydol y gwaith.
Meddai Victoria Rogers, o Stori Caerdydd:
Chwaraeodd Amgueddfa Cymru rôl ymgynghorydd cefnogol gan ddarparu cyngor ar bopeth o fanyleb ein casys amgueddfa, y larymau a’r monitorau amgylchedd gorau a’r gweithdrefnau posibl ar gyfer staff blaen tŷ.
Y pleser pennaf o gydweithio â nhw yw ein bod wedi medru benthyg gwrthrychau o’r casgliad cenedlaethol i’w harddangos yn ein hamgueddfa. Mae gan Gaerdydd stori anhygoel i’w hadrodd, ond doedd dim lleoliad i adrodd yr hanes tan nawr.
Wrth greu ein horielau newydd buom yn ymgynghori tipyn â’r cyhoedd oedd yn frwd dros weld amgueddfa fyddai’n llawn gwrthrychau. Nid yw hyn yn dasg hawdd wrth adeiladu amgueddfa o ddim byd!
Mae cymorth ac ymroddiad Amgueddfa Cymru wedi ein galluogi i fenthyg gwrthrychau sydd heb gael eu gweld yng Nghaerdydd ers degawdau (neu fwy). Mae nhw ar ein silffoedd ni bellach, yn hytrach nag yn storfeydd Amgueddfa Cymru, syn beth da i ni, ein hymwelwyr ac Amgueddfa Cymru.
www.cardiffstory.com
Rydym ni’n parhau i feithrin perthnasau gyda lleoliadau a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, sy’n adeiladu ar y polisi hirdymor o roi benthyg i sefydliadau eraill ac ar y profiad o weithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, mae projectau partneriaeth a chyfnewid gydag amgueddfeydd cenedlaethol tu hwnt i Gymru wedi arwain at rannu strategaethau curadurol yn ogystal ag ehangu mynediad at wrthrychau.