Celf Cymru Gyfan
Lansiwyd Celf Cymru Gyfan, cynllun partneriaeth celf weledol Amgueddfa Cymru, ym mis Rhagfyr 2004, ac fe’i noddir trwy haelioni Sefydliad Esmée Fairbairn.
Fe’i ddatblygwyd er mwyn ehangu mynediad at y casgliadau celf cenedlaethol ac mae’n cydredeg â chynllun Cyfoeth Cymru Gyfan.
Hyd yn hyn, mae Celf Cymru Gyfan wedi hwyluso 19 o brojectau; wedi galluogi 10 comisiwn a chyfnod preswyl newydd i artistiaid; ac wedi rhoi benthyg dros 400 o wrthrychau celf ar draws Cymru.
Drwy gynllun Celf Cymru Gyfan, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r canlynol:
- Castell Bodelwyddan
- Oriel Gelf Glynn Vivian (Abertawe)
- Oriel Davies (Y Drenewydd)
- Oriel Mostyn (Llandudno)
- Canolfan Grefft Rhuthun
- Locws Rhyngwladol (Abertawe)
- Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog
- Prifysgol Morgannwg
- Oriel y Parc (Tyddewi)
- Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol (Llundain)