Swyddi Plant yn y Pyllau Glo
Dyfyniadau o Adroddiad Robert Hugh Franks, Ysw. ar Gyflogi Plant a Phobl Ifanc ym Mhyllau Glo a Gweithfeydd Haearn De Cymru; a Chyflwr, Amodau a Thriniaeth Plant a Phobl Ifanc o'r fath. (1842)
'Cyflogir plant a phobl ifanc yn y pyllau glo mewn tri maes penodol, sef fel glowyr, fel tywyswyr ceffylau, neu gludwyr, ac fel bechgyn sy'n gweithredu drysau aer; ac mewn rhai pyllau, maent yn gweithio fel certmyn a chludwyr sgipiau hefyd.
Gwaith y cludwr yw tywys y ceffyl a'r tram, neu'r cerbyd, o'r talcen glo, lle mae'r glowyr yn cloddio am lo, i fynedfa'r lefel. Mae'n rhaid iddo ofalu am ei geffyl, ei fwydo yn ystod y dydd a mynd ag e adref yn y nos: mae'n rhaid iddo fod yn hynod ystwyth i allu gweithio ar y ffyrdd cul sydd â nenfwd isel; weithiau mae'n rhaid iddo stopio ei dram yn sydyn – mewn amrantiad mae e rhwng y gledren ac ochr y lefel, ac yn y tywyllwch mae e'n gosod sbrigyn rhwng adain olwynion ei dram, cyn dychwelyd i'w safle gwreiddiol mewn ffordd hynod ddeheuig; er rhaid cyfaddef ei fod yn cael ei wasgu'n aml yn sgil hyn i gyd. Fel arfer mae'r cludwr rhwng 14 a 17 oed, ac mae ei daldra yn hynod bwysig ac yn dibynnu ar uchder a lled y prif ffyrdd.'
'Fel arfer mae'r bachgen sy'n gweithredu'r drysau aer rhwng pump ac unarddeg oed: mae e'n gweithio yn y pwll wrth y drws aer a'i dasg yw agor y drws fel bod y cludwr gyda'i geffyl a'i dram yn gallu pasio, a'i gau wedyn. Mewn rhai pyllau mae sefyllfa'r trueniaid hyn yn peri gofid. Mae'r plentyn truenus yn treulio'r diwrnod ar ei ben hun gydag un gannwyll mewn amodau oer, gwlyb a chyfyng, wedi'i amddifadu o olau ac aer ac eisiau bwyd: rhwng 6 a 8d. y dydd yw eu cyflog. Does bosibl mai dim byd llai na thlodi eithafol fyddai'n gorfodi rhiant i aberthu bodolaeth corfforol a moesol ei blentyn! Ac eto dyma'r sefyllfa yn ôl fy mhrofiad i, ac mae trachwant rhieni yn gymaint o ysgogiad â'u tlodi.'
'Cyflogir certmyn yng ngwythïennau glo cul mewn rhannau o Sir Fynwy; eu swyddogaeth yw llusgo'r troliau neu'r sgipiau glo o safle'r gwaith i'r prif ffyrdd. Wrth wneud y gwaith hwn mae'r gwregys lledr yn cael ei glymu o amgylch y corff, mae'r gadwyn yn pasio rhwng y coesau ac yn glynu wrth y drol, ac mae'r bachgen yn ei ddragio drwy ddefnyddio ei ddwylo a'i draed.'