Plant y Chwyldro: Amcanion y Project
Amcanion y Project
Yr amcan cyntaf oedd cynhyrchu adnodd cynhwysfawr ond hyblyg; adnodd a fyddai'n gallu darparu fframwaith clir ar gyfer ymchwiliad strwythuredig ond bod modd i'r rhai sydd am gynllunio eu projectau eu hunain ddefnyddio elfennau ohono ar wahân hefyd.
Yn ail, roeddem am greu adnodd a fyddai'n berthnasol i Hanes yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, ond a fyddai hefyd yn ehangu mynediad i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon i bobl sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol neu ddiwydiannol ym mhob cwr o'r byd.
Yn drydydd, roeddem yn awyddus i greu adnodd dysgu a fyddai'n sbarduno'r dychymyg, yn annog plant i ddatblygu eu sgiliau a'u dealltwriaeth hanesyddol ac yn fodd iddynt ymarfer a meithrin sgiliau bywyd allweddol, fel: gweithio gyda rhifau; cofnodi a datrys problemau; TGCh a chyfathrebu. Y nod oedd y byddai Plant y Chwyldro nid yn unig yn addysgu plant am y gorffennol, ond hefyd yn dangos iddynt sut i ddysgu am y gorffennol (a dysgu oddi wrtho), a chreu cyd-destun cyffrous lle bydd plant yn awyddus i wneud defnydd da o'r sgiliau eraill y maent wedi'u hennill drwy waith caled.
Yn bedwerydd, roeddem yn awyddus i ddefnyddio grym TGCh i wneud dysgu am hanes mor bleserus a hygyrch â phosibl i ddysgwyr o bob gallu; i ddefnyddio ei phriodweddau gorau i gyflwyno elfennau a phosibiliadau newydd i'r maes dysgu yn yr ystafell ddosbarth a'r cartref.
Y Project
Cynhaliwyd y project fel partneriaeth rhwng Gwasanaeth Gwella Ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd a Big Pit, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru (rhan o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru). Roedd hefyd yn cynnwys rhwydwaith proffesiynol o bum athro o ysgolion cynradd yng Nghasnewydd, a ariannwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Mae'r cydweithio wedi parhau am tua phymtheg mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaeth y rhwydwaith athrawon a ariennir gan CyngACC gyfarfod chwe gwaith, rhwng Tachwedd 2002 a Mawrth 2003. Mae aelodau eraill y tîm, ac yn enwedig y ddau reolwr project, wedi cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd tîm ac i baratoi adnoddau addysgu.
Tîm y Project:
Don Trueman, Athro Ymgynghorol y Dyniaethau, Cyngor Dinas Casnewydd (Cyd-reolwr y Project a Chydgysylltydd Rhwydwaith CyngACC);
Sharon Ford, Swyddog Addysg, Big Pit (Cyd-reolwr y Project);
Chris Price, Cynghorydd Cysylltiol ar gyfer TGCh, Cyngor Dinas Casnewydd;
Steven Singer, Swyddog Datblygu TGCh, Cyngor Dinas Casnewydd;
Y Rhwydwaith Athrawon:
Natalie Gould, Ysgol Gynradd Sant Padrig;
Nerys Tudor-Jones, Ysgol Gynradd Clytha;
Alex Smith, Ysgol Gynradd Sant Andreas;
Sue Webb, Ysgol Gynradd Eveswell;
Sarah Mason, Ysgol Gynradd Somerton.
Wrth reswm, mae cydweithwyr o ganghennau eraill Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac o Awdurdod Addysg Lleol Casnewydd wedi cyfrannu at gyfarfodydd a thrafodaethau ac wedi cynorthwyo'r project yn ymarferol ar brydiau.
O ganlyniad, roedd tîm y project yn meddu ar gydbwysedd o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd cyflenwol: gwybodaeth pwnc ac adnoddau hanesyddol eang; galluoedd technegol penodol ym maes TGCh ac amlgyfrwng; dealltwriaeth glir o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a blaenoriaethau a dulliau gweithredu ym maes addysg; profiad ymarferol a chyfredol o'r ystafell ddosbarth; profiad a dealltwriaeth o ymarfer ac egwyddorion ym maes dehongli hanesyddol.
Fodd bynnag, ni fydd partneriaethau o'r fath yn dwyn ffrwyth oni bai bod pawb dan sylw yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi natur gyflenwol profiad ac arbenigedd ei gilydd, ac yn ymroddedig i sicrhau bod y darlun cyflawn yn bwysicach nag unrhyw ran ohono. Roedd AALl Casnewydd ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi cydweithio ar broject amlgyfrwng yn y gorffennol yn seiliedig ar Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Enw'r project oedd Her Caerllion, a derbyniodd gymeradwyaeth uchel yng nghategori TGCh Gwobrau Archaeolegol Prydain yn 2002. Er yn llai uchelgeisiol o lawer na Plant y Chwyldro, llwyddodd y project hwn i ddangos bod perthynas waith agos rhwng y ddau sefydliad yn bosibl ac yn gynhyrchiol iawn.
Yr Adnodd ei Hun
Adnodd gwe sydd â'i wefan ei hun yw Plant y Chwyldro. O ganlyniad, mae'n gallu tyfu a chael ei addasu ar unrhyw adeg yn y dyfodol, ac mae ar gael i bobl ym mhedwar ban y byd.
Mae'r ymchwiliad yn seiliedig ar sefyllfa sy'n adlewyrchu digwyddiad hanesyddol go iawn. Mae'r plant yn cymryd arnynt eu bod yn Arolygwyr y Comisiwn Brenhinol sydd wedi'u hanfon i Flaenafon ym 1842 i ddysgu am amodau byw a gwaith pobl yn y dref, gan ganolbwyntio'n benodol ar fywydau plant. Mae'n rhaid iddynt archwilio tystiolaeth o bedwar maes allweddol: Gwaith; Cartrefi ac Iechyd; Addysg; Twf y Gymuned. Ar ôl casglu, dadansoddi a thrafod eu tystiolaeth, gofynnir i'n 'Harolygwyr' baratoi adroddiad i'r Frenhines Fictoria a'r Senedd yn crynhoi'r problemau yr oedd pobl yn eu hwynebu ac yn cynnig atebion.
Cyflwynir tystiolaeth hanesyddol drwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys: fideo; rhith-wirionedd; ymarferion taenlenni; tystiolaeth ddarluniadol a thystiolaeth ysgrifenedig; mapio rhyngweithiol.
I'r rhai sy'n awyddus i ddysgu mwy, mae pob adran yn cynnwys cyfeiriadau gwefannau perthnasol ac addas, rhestri o werslyfrau ysgol a argymhellir a chronfa adnoddau mewnol sy'n cynnwys ffynonellau, gwybodaeth a lluniau pellach.
Mae gweithgareddau wedi'u cynnwys i helpu dysgwyr i gael gwybodaeth o'r ffynonellau a datblygu syniadau allweddol, ac mae grid hunanwerthuso wedi'i ddarparu i'w helpu i benderfynu ar y safon y maent a) am ei chyrraedd a b) wedi ei chyrraedd ym mhob gweithgaredd.
Mae Plant y Chwyldro yn darparu llwybr neu gynnydd sydd wedi'i strwythuro'n glir, trwy'r ymchwiliad i'r rhai sy'n dewis ei ddilyn. Mae'r plant yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth yn raddol, sy'n llywio ac yn ysbrydoli eu hadroddiad terfynol. Mae hefyd yn fodiwlaidd yn yr ystyr bod pob adran yn annibynnol ac yn cynnwys ei gweithgareddau a'i chanlyniadau penodol ei hun, sy'n galluogi athrawon i ddewis a dethol rhannau penodol o'r adnodd heb orfod defnyddio'r pecyn cyfan os mai dyna yw eu dymuniad.
Y Gynulleidfa Darged
1) Ysgolion
Nod yr adnodd yw cefnogi uned astudio Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol, Bywyd yng Nghymru a Phrydain Fodern, lle mae plant yn dysgu am fywyd a gwaith yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac yn eu cyferbynnu â chyfnod penodol o'r ugeinfed ganrif. Mae'r pwnc hwn yn orfodol yng Nghymru ac mae yna uned astudio gyfatebol yn Lloegr, sy'n golygu bod yna farchnad bosibl anferth ar gyfer yr adnodd.
Mae hefyd yn bosibl y byddai rhai dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3, yn enwedig y rhai sydd ag anawsterau darllen, yn gallu elwa ar y dystiolaeth amrywiol a'r ffaith ei bod yn cynnwys llawer o luniau.
Oherwydd ei gydlyniant a'i hyblygrwydd cynhenid, gall athrawon ddefnyddio adnodd Plant y Chwyldro mewn nifer o ffyrdd amrywiol. Gellid gosod yr ymchwiliad fel project ar gyfer parau neu grwpiau bach o ddysgwyr mwy galluog, er mwyn herio a datblygu eu sgiliau dysgu annibynnol. Fel arall, gellid ei ddefnyddio fel fframwaith ar gyfer pwnc dosbarth cyfan dros dymor cyfan, gan ysgogi trafodaeth, ymholiadau pellach ac ymchwilio manwl i bynciau cysylltiedig. Mae'n cynnig cyfleoedd delfrydol i ddefnyddio cyfrifiaduron yn yr ystafell ddosbarth, ystafelloedd cyfrifiaduron a byrddau gwyn rhyngweithiol. Gall athrawon ddefnyddio teledu a pheiriant fideo ar gyfer y rhan fwyaf o'r adnoddau os yw'n well ganddynt wneud hynny.
2) Y Cyhoedd Ehangach
Gan mai adnodd gwe yw Plant y Chwyldro, mae modd ei ddefnyddio ym mhob man yn y byd. Bydd hyn yn agor llwybr newydd sbon i Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn hanes diwydiannol a/neu effeithiau diwydiannu ar boblogaeth gwlad, neu ar gyfer y rhai sydd â chysylltiadau teuluol â De Cymru.
Nid yw'r adnodd yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr, ond mae'n cynnig man cychwyn cyffrous a hawdd ei ddefnyddio i'r wefan a dolenni defnyddiol ar gyfer llwybrau dysgu pellach. Rydym o'r farn y bydd gweithgareddau ac adnoddau Plant y Chwyldro yn apelio at yr hen a'r ifanc fel ei gilydd, beth bynnag yw lefel eu haddysg neu ddiddordeb.
Lansio'r Adnodd
Cafodd Plant y Chwyldro ei lansio'n swyddogol yn Big Pit, Blaenafon ar 26 Tachwedd 2003.