Gwybodaeth am Plant y Chwyldro

Adnodd dysgu amlgyfrwng gan Gyngor Dinas Casnewydd ac Amgueddfa Cymru yw Plant y Chwyldro. Ymchwiliad hanesyddol i fywyd a gwaith mewn tref ddiwydiannol newydd (Blaenafon) yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hanfod yr adnodd. Bydd plant yn dysgu am y gweithlu diwydiannol drwy astudio tystiolaeth hanesyddol go iawn trwy amrywiaeth o brofiadau amlgyfrwng. Byddant yn cyfarfod â chymeriadau o’r gorffennol yn eu gweithle, cartrefi ac ysgolion a byddant yn darganfod sut y gwnaeth y boblogaeth a nifer y trefi sianti gynyddu’n syfrdanol yn sgil galw’r genedl am haearn a glo. Byddant hefyd yn dysgu am broblemau fel tlodi, salwch a diffyg maeth a oedd yn elfennau anochel o dwf trefol cyflym.