Defnyddio Plant y Chwyldro

Mae’r adnodd dysgu hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg fel bod athrawon yn gallu ei ddefnyddio yn ôl eu dymuniad. Gellid defnyddio’r adnodd, er enghraifft, i herio plant mwy galluog i ddysgu’n annibynnol, ei ddefnyddio fel fframwaith ar gyfer gwaith grŵp, neu fel sail ar gyfer dysgu ac addysgu dosbarth cyfan, gan ddefnyddio ystafelloedd cyfrifiaduron a/neu fyrddau gwyn rhyngweithiol o bosibl. Gellid defnyddio’r adnodd ar gyfer gwaith tymor cyfan neu fel ymchwiliad byr dwys. Gall athrawon ddefnyddio’r adnodd cyfan neu ddewis a dethol pynciau penodol, neu adnoddau. Mewn llawer o achosion, gall y plant weithio ar y sgrin neu ar bapur.

Gall Plant y Chwyldro ysgogi plant ac oedolion mewn ffyrdd amrywiol, ond rhaid herio myfyrwyr i feddwl am ystyr neu oblygiadau’r wybodaeth y maent yn dod o hyd iddi er mwyn sicrhau dysgu gwirioneddol. Mae’n rhaid i athrawon, felly, barhau i allu cychwyn trafodaethau ymysg myfyrwyr er mwyn datblygu syniadau a sgiliau, cyrraedd casgliadau a hybu dealltwriaeth yn ogystal â gwybodaeth.