Nodiadau i Athrawon

Lawrlwythwch y Nodiadau i Athrawon fel ffeil PDF.

Nod yr adnodd hwn yw datblygu sgiliau dysgu plant drwy ymchwilio i fywyd Blaenafon, tref ddiwydiannol yn y De, ar adeg bwysig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Trwy amrywiaeth o brofiadau amlgyfrwng, bydd y plant yn astudio amrywiaeth eang o ffynonellau o dystiolaeth hanesyddol, yn gwella eu gallu i gyrraedd casgliadau a rhesymu’n feirniadol a datblygu eu hyder yn eu sgiliau TGCh a llythrennedd. Yn ogystal, byddant yn dysgu am stori ddiddorol ac ysgytiol Blaenafon. Ar un adeg roedd Blaenafon yn un o drefi pwysicaf y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain ac yn un o brif gynhyrchwyr haearn a glo'r byd. Erbyn heddiw mae Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd ac yn hollbwysig i’n dealltwriaeth o effaith diwydiant ar fywydau gweithwyr cyffredin.