Tasg 1 - Gwaith

1) Ymarferiad Cyfrifiad

Mae'r detholiadau'n dod o ffurflenni cyfrifiad Blaenafon 1841. Mae copi o gofnod gwreiddiol wedi'i gynnwys yn y Gronfa Adnoddau er diddordeb, ond mae'r wybodaeth sydd i'w defnyddio yn y gweithgaredd wedi'i rhoi ar daenlen er mwyn sicrhau ei bod yn glir. Rydym wedi cynnwys cyfeiriadau enghreifftiol o'r cyfrifiad yn unig yn hytrach na chyfeiriadau strydoedd neu glystyrau o dai (byddai hynny wedi bod yn ddiflas ac yn ailadroddus). Fodd bynnag, mae'r cofnod ar gyfer pob cartref unigol a ddangosir yn gyflawn.

Cefndir

Mewn ymgais i godi arian ar gyfer y rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc adeg ei Chwyldro, cyflwynwyd Treth Incwm ym 1798. Fodd bynnag, buan iawn y daeth i'r amlwg nad oedd y llywodraeth yn gwybod beth oedd poblogaeth y wlad nac yn gwybod am sefyllfa ddaearyddol neu gymdeithasol y trigolion. Cyflwynwyd y cyfrifiad swyddogol ym 1801 felly, ac mae wedi cael ei gynnal bob deng mlynedd ers hynny (ac eithrio 1941).

Beth mae'r Cyfrifiad yn gallu ei ddweud wrthym

Mae'r cyfrifiad yn adnodd hanfodol ar gyfer haneswyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ei fod yn rhoi gwybodaeth am sawl agwedd bwysig ar fywyd a chymdeithas: galwedigaethau (gan gynnwys llafur plant); maint a natur cartrefi; iaith; ymfudo. Casglwyd y cofnodion gan Rifwr, sef aelod llythrennog o'r gymuned leol a oedd yn teithio o ddrws i ddrws ac yn casglu gwybodaeth am bwy oedd yn byw ym mhob cyfeiriad ar y noson benodol honno. Yn anffodus, fel y gwelir yn ein casgliad enghreifftiol, ni chwblhawyd y cofnodion yn llawn bob tro. Nid oedd galwedigaethau menywod a phlant yn cael eu nodi weithiau, gan roi'r gamargraff nad oeddynt yn cael eu cyflogi. Er enghraifft, mae'r cofnod ar gyfer cartref McCarthy yn Stack Square (gweler Tasg 2, gweithgaredd 1) yn nodi nad yw'r ddau fachgen ifanc yn gweithio. Fodd bynnag, mae eu tystiolaeth i Gomisiynwyr y Pyllau Glo ym 1842 (gweler y Gronfa Adnoddau) yn dangos yn glir fod y ddau fachgen yn gweithio gyda'u tad yn y gwaith haearn.

Mae'r cyfrifiad, felly, yn darparu rhywfaint o wybodaeth am waith a galwedigaethau ym Mlaenafon ym 1841, ond mae'n rhaid i ni ddefnyddio ffynonellau eraill i gael darlun llawn.

Y Gweithgaredd

Mae'r daflen weithgaredd wedi'i chynnwys i helpu plant i ddod yn gyfarwydd â   diwyg cofnod y cyfrifiad a'u helpu i'w ddefnyddio a dod o hyd i wybodaeth ffeithiol. Mae angen i'r athro fynd ati i hybu trafodaethau manylach am yr hyn y mae'r wybodaeth yn ei ddweud wrthym am fywyd yn y gorffennol.

2) Fideo Servants of the Empire a Thystiolaeth Ymarferiad Disgrifiad Swydd

Ffilmiwyd y fideo dan ddaear yn Amgueddfa Lofaol y Big Pit. Mae'r sgript ar gyfer y cymeriadau amrywiol a bortreadir yn y ffilm yn seiliedig ar adroddiad Comisiwn Brenhinol 1842 ar The Employment of Children and Young Persons in Mines, a oedd yn sail i Ddeddf Pyllau Glo'r un flwyddyn. Er gwaethaf y teitl, roedd yr adroddiad hefyd yn cofnodi gwybodaeth am ddynion a'r rhai oedd yn gweithio ar y wyneb mewn diwydiannau cysylltiedig (e.e. y diwydiant haearn).

Mae geiriau'r actorion ychydig yn wahanol mewn rhannau i destun yr adroddiad er mwyn dileu unrhyw ddyblygu dianghenraid a'i gwneud hi'n haws i blant lefaru'r geiriau. Mae geiriau gwreiddiol pob cymeriad wedi'u cynnwys yn y Gronfa Adnoddau, ynghyd â rhai dyfyniadau ychwanegol. Hwyrach y bydd athrawon yn sylwi bod y rhain yn gymysgedd o araith uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae'r holl destun wedi'i drin fel araith uniongyrchol at ddibenion y fideo. Yn ogystal, mae'n glir bod y dystiolaeth wedi'i rhoi mewn ymateb i gwestiynau gan yr Arolygwyr nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Rydym wedi ysgrifennu ac ychwanegu ein cwestiynau ein hunain ar gyfer sgript y fideo.

Yn ogystal â'r plant eu hunain, dau brif gymeriad y fideo yw Mr. Franks (llais yn unig; mae lens y camera'n cynrychioli ei lygaid) a Mr. John Samuel, sy'n ei dywys o dan y ddaear. R. H. Franks oedd Arolygydd y Comisiwn Brenhinol a gasglodd dystiolaeth yn y De ac a fu ar ymweliad ag ardal Blaenafon ym 1842. John Samuel, 31 oed, oedd Asiant y Pyllau Glo ym Mlaenafon, ac er iddo gyflwyno tystiolaeth i adroddiad Franks, nid oes tystiolaeth ei fod wedi gweithio fel tywysydd Franks o dan y ddaear. Fodd bynnag, mae'n debyg bod unigolyn o'r fath wedi gwneud hynny.

Roedd yr Adroddiad ar y Pyllau Glo yn arloesol gan mai dyna'r adroddiad cyntaf i gynnwys lluniau. Yn ôl y bwriad, cafodd y rhain effaith fawr ar yr Aelodau Seneddol yr oedd yr adroddiad yn ceisio dylanwadu arnynt, ond roedd rhai o berchnogion y mwynfeydd a'r pyllau glo yn gandryll eu bod wedi'u cynnwys*. Mae copïau o rai o'r lluniau hyn wedi'u cynnwys yn y Gronfa Adnoddau, ynghyd â darn o ymateb un diwydiannwr hynod flin o'r De.

*Mae pwll glo yn cynhyrchu glo ac mae mwynfa yn cynhyrchu carreg haearn (neu fwyn haearn.) Mae glöwr, felly, yn cyfeirio at weithiwr sy'n cloddio am lo, tra bod mwynwr yn cyfeirio at rywun sy'n cloddio am garreg haearn.

Y Gweithgaredd

Nod yr ymarferiad disgrifiad swydd yw annog plant i ddefnyddio gwybodaeth ffeithiol a'u dychymyg i lunio nodiadau ar brif nodweddion hyd at 3 swydd o'u dewis ac awgrymu'r priodoleddau corfforol a meddyliol sydd eu hangen ar weithwyr i fodloni gofynion y swydd. Dylai hyn brofi'r wybodaeth y maent wedi'i hennill o'r fideo a/neu'r dyfyniadau o'r Gronfa Adnoddau a'u dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am fywydau pobl yn y gorffennol (yn enwedig plant). Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Fel y nodwyd uchod, cyfrifoldeb yr athro dosbarth wedyn yw cychwyn trafodaeth fanylach am yr amodau gwaith llym a sut y gallai'r rhain fod wedi effeithio ar iechyd, datblygiad personol a chyfleoedd bywyd plant.

Gall plant wylio fideo llawn Servants of the Empire a/neu gyfeirio at bytiau unigol sy'n berthnasol i swyddi penodol.