Tasg 3 - Addysg

Cefndir

Agorwyd Ysgol Sant Pedr, Blaenafon ym 1816 a hon oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd gan ddiwydiannwr er lles ei weithwyr. Mae’r adeilad gwreiddiol yn dal i sefyll ac ar hyn o bryd (2003) mae’n cael ei adnewyddu fel Canolfan Ddehongli ar gyfer Blaenafon.

Fodd bynnag, hyd at ran olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg nid oedd plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Ychydig iawn o deuluoedd gweithwyr diwydiannol oedd yn gallu fforddio gadael  i’w plant fynd i’r ysgol yn rheolaidd gan fod angen i’r plant hyn helpu i sicrhau bod y cartref yn ennill incwm da (gweler fideo Servants of the Empire).

Y Gweithgaredd

Yn y fideo gyntaf, School Rules, OK?, mae plant Ysgol Gynradd Clytha yn cymryd eu tro i adrodd rheolau gwreiddiol 1816 Ysgol Sant Pedr. Ar ôl i bob un o’r deuddeg rheol gael ei hadrodd, mae fersiwn modern yn cael ei gynnig er mwyn ei gwneud hi’n haws i ddysgwyr ddeall y rheol.

Mae’r ail fideo, School Days, Victorian Ways, yn cynnwys darnau o lyfrau log Ysgol Sant Pedr o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae’n helpu i egluro agweddau ar y cwricwlwm, dulliau addysgu a disgyblaeth yn yr ysgol. Yn anffodus, mae’r llyfrau log ar gyfer rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mynd ar goll, ond mae’n debyg na fu newid mawr yn y dulliau addysgu a chynnwys y cwricwlwm gydol y cyfnod Fictoraidd.

Yn yr un modd â Servants of the Empire, gellir gwylio’r ddwy fideo yn eu cyfanrwydd a/neu wylio darnau unigol ohonynt.

Ar ôl iddynt wylio’r ddwy fideo, y dasg i’r plant yw llunio cofnodion llyfr log ar gyfer diwrnod ysgol ‘arferol’ ym 1841 a diwrnod yn yr ysgol heddiw. Ar ôl hynny gofynnir i’r plant nodi gwahaniaethau rhwng y ddau a chynnig rhesymau pam eu bod mor wahanol.

Mae’r rhestri llyfrau’n cynnwys sawl cyfeiriad y gall plant ei ddefnyddio i wneud gwaith ymchwil pellach ar ysgolion Fictoraidd. Yng nghyd-destun yr astudiaeth hon, y prif bwyntiau addysgu yw nad oedd llawer o blant yn cael nemor ddim neu ddim addysg o gwbl, a bod y cwricwlwm yn ddiflas a chaeth iawn a’r ddisgyblaeth yn llym dros ben. Fodd bynnag, er bod bywyd yn yr ysgol yn galed, roedd yn well o lawer na llafurio dan ddaear neu wrth y ffwrneisiau.