Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
10 erthyglau. Tudalen: 1 2
Heddiw (3 Rhagfyr 2015) dyfarnodd Crwner E.M. Gwent bod celc a ganfuwyd yng nghymuned Llantrisant Fawr yn Sir Fynwy yn Drysor.
Heddiw (25 Tachwedd 2015) dyfarnwyd bod celc o geiniogau Rhufeinig a dwy fodrwy o’r oesoedd canol yn drysor gan Grwner E.M. Caerdydd a Bro Morgannwg
Mae Crwner E.M. Gwent wedi dyfarnu bod mownt arian wedi’i ysgythru o ddiwedd yr oesoedd canol, ac sydd dros 300 mlwydd oed, yn drysor.
Heddiw (25 Awst 2015), cyhoeddodd XXX mai trysor yw’r celc o arian Llychlynnaidd sy’n cynnwys darnau arian ac ingotau. Cafwyd hyd i’r trysor yn Llandwrog ar 2 Mawrth 2015 gan Mr Walter Hanks a’i ddatgelydd metel.
Heddiw (19 Awst 2015) cadarnhawyd bod gwrthrych arian, yn dyddio o hanner gyntaf yr ail ganrif ar bymtheg yn drysor. Fe’i darganfuwyd gan Mrs Gordana Mitchell o Lannau Dyfrdwy wrth ganfod metal ym mis Mawrth 2013.
Mae celc canoloesol o dri darn aur a 25 darn arian o Loegr wedi ei ddarganfod ger Bronington, Wrecsam. Daw’r ceiniogau o gyfnodau Edward III, Richard II a Harri VI, gyda thair ceiniog o gyfnodau amhenodol. Cafodd y ceiniogau eu darganfod ar sawl gwahanol achlysur yn 2013 gan Mr Cliff Massey wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel, a chafodd modrwy hefyd ei darganfod gan Mr Massey a Mr Peter Walpole ar 16 Mawrth 2014.