Adfeilion Rufeinig
Roedd Caerllïon, neu Isca i’r Rhufeiniaid, yn un o dair Caer barhaol a godwyd ym Mhrydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid.
Roedd y gaer ei hun ar ffurf cerdyn chwarae, ac yn defnyddio 50 erw o dir sydd bellach yn safle i’r Amgueddfa.
Ychydig funudau o gerdded o’r orielau fe welwch yr Amffitheatr mwyaf cyflawn ym Mhrydain, Baddondai prydferth y Gaer, a’r unig olion o Farics Lleng Rufeinig ar ddangos unrhyw le yn Ewrop.
Mae’r cloddiadau trawiadol yn cynnwys pwll nofio awyr agored (natatio) a swît o faddondai oer (frigidarium), sy’n enghraifft o gyfran yn unig o’r strwythur anferth gwreiddiol.
Cychwynnwyd adeiladu’r amffitheatr yn 90 OC y tu allan i furiau’r gaer, ac mae’n parhau i fod yn olygfa drawiadol hyd heddiw.
Byddai eisteddle pren wedi eistedd tua 6,000 o bobl, ac, wrth sefyll yn ei ganol, gallwch ddychmygu’r golygfeydd a synau’r torfeydd yn bloeddio. Gallai fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol gemau, gwyliau milwrol a chrefyddol, neu fel maes ymarfer neu barêd.
Rheolir Caer Rufeinig Caerllion gan CADW, sy’n cyflawni cyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwarchod, cadw a hyrwyddo henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru.