Digwyddiad: Gladiatoriaid
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
2,000 o flynyddoedd yn ôl, y gladiatoriaid oedd sêr chwaraeon yr Ymerodraeth Rufeinig. Roedd pobl o bob rhan o’r gymdeithas Rufeinig yn mynd i’w gwylio, gan gynnwys milwyr Caerllion.
Galwch draw i’n ludus, ysgol hyfforddi gladiatoriaid. Cewch ddysgu ymladd a dod i wybod mwy am yr offer a bywydau’r ymladdwyr ffyrnig hyn.
Bydd yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg ar Awst 28.