Digwyddiadau

Digwyddiad: Gwersyll y Fyddin Rufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
22–26 Gorffennaf 2024, 10.30am-11.30am 11.30am -12.30pm 1.30pm-2.30pm 2.30pm-3.30pm
Pris £2.50/plentyn
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Archebwch wrth gyrraedd

Beth am alw draw i ymuno â'r Ail Leng Awgwstaidd a chwrdd â milwr? 

Cymerwch olwg ar eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol a darganfyddwch sut oedd bywyd i filwr Rhufeinig ar gyrion yr ymerodraeth. 

Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn filwr Rhufeinig?

Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar arfwisg Rufeinig a gorymdeithio gan ddefnyddio gorchmynion Lladin. 

Gorffennwch eich ymweliad gyda tystysgrif i ddweud eich bod wedi ymuno â'r fyddin Rufeinig.

Mae'r gweithgaredd yma yn para awr.

Bydd yn cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg ddydd Llun a dydd Mawrth.

Digwyddiadau