Digwyddiad: Cyfleoedd i sgwrsio, cymryd rhan a dysgu am y Rhufeiniaid yn Gymraeg
Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am fywyd y Rhufeiniaid drwy gyfrwng y Gymraeg.
Addas ar gyfer dysgwyr, siaradwyr Cymraeg rhugl a rhieni/gofalwyr plant sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwersyll y Fyddin Rufeinig
22 a 23 Gorffennaf 2024, 10.30am-11.30am 11.30am -12.30pm 1.30pm-2.30pm 2.30pm-3.30pm
£2.50 y plentyn
Beth am alw draw i ymuno â'r Ail Leng Awgwstaidd a chwrdd â milwr?
Cymerwch olwg ar eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol a darganfyddwch sut oedd bywyd i filwr Rhufeinig ar gyrion yr ymerodraeth.
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn filwr Rhufeinig?
Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar arfwisg Rufeinig a gorymdeithio gan ddefnyddio gorchmynion Lladin.
Gorffennwch eich ymweliad gyda tystysgrif i ddweud eich bod wedi ymuno â'r fyddin Rufeinig.
Mae'r gweithgaredd yma yn para awr. Archebwch wrth gyrraedd.
Dwylo ar y Gorffennol
23 a 30 Awst 10.30am-12.30am & 1.30pm-3.30pm
AM DDIM
Cewch ddysgu mwy am fywyd yn y gaer dros yr haf, a chael trin a thrafod gwrthrychau Rhufeinig go iawn.
Sesiynau galw heibio - dim angen archebu.
Gladiatoriaid
28 Awst, 10.30am-11.30am 11.30am -12.30pm 1.30pm-2.30pm 2.30pm-3.30pm
£2.50 y plentyn
2,000 o flynyddoedd yn ôl, y gladiatoriaid oedd sêr chwaraeon yr Ymerodraeth Rufeinig. Roedd pobl o bob rhan o’r gymdeithas Rufeinig yn mynd i’w gwylio, gan gynnwys milwyr Caerllion.
Galwch draw i’n ludus, ysgol hyfforddi gladiatoriaid. Cewch ddysgu ymladd a dod i wybod mwy am yr offer a bywydau’r ymladdwyr ffyrnig hyn.
Archebwch wrth gyrraedd
Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am fywyd y Rhufeiniaid drwy gyfrwng y Gymraeg. Addas ar gyfer dysgwyr, siaradwyr Cymraeg rhugl a rhieni/gofalwyr plant sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.