Coronafeirws (Covid-19)

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Llywodraeth Cymru heddiw, rydym yn bwriadu ailagor tiroedd awyr-agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am bedwar diwrnod yr wythnos (Mawrth,Iau, Sadwrn a Sul) o 4 Awst. Bydd angen i ymwelwyr archebu tocyn o flaen llaw. Bydd manylion sut i archebu tocyn yn cael eu rannu yn agosach at ddyddiad agor yr Amgueddfa. Rydym hefyd yn bwriadu ailagor amgueddfeydd cenedlaethol eraill Cymru yn raddol. Bydd hyn yn digwydd mewn dau gam, a bydd yn dibynnu ar gyfraddau’r feirws dros yr wythnosau nesaf:

Yn ystod wythnos 24 Awst: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaetholy Glannau

1 Medi: Amgueddfa Wlân Cymru, Big Pit ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Tra bydd ein hamgueddfeydd ar gau, gallwch barhau mewn cysylltiad â ni yma ar ein gwefan. Porwch ein casgliadau ar-lein, erthyglau am ein gwaith a gweithgareddau i’w gwneud yn eich cartref. Dewch i ddarganfod straeon newydd a rhannu’ch straeon chi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Twitter, Facebook, Instagram.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni, byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn am eich dealltwriaeth a chefnogaeth barhaus. Cymrwch ofal, a chadwch mewn cysylltiad!

Digwyddiadau

Arddangosfeydd 5 Tachwedd 2017

Cyfle olaf i'w weld
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
2 Mawrth 2017 – 31 Awst 2018

Digwyddiadau a Sgyrsiau 5 Tachwedd 2017

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Bob Sadwrn
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru