Achlysuron Arbennig
Beth am adael i ni wneud y gwaith trefnu? Dewiswch becyn holl-gynhwysol ar gyfer eich parti pen blwydd neu ddiwrnod bant o'r swyddfa.
Os hoffech chi, gallwch hefyd
logi ystafell yn unig.Parti Pen Blwydd i Blant
Ymhle arall yn Ne Cymru y gallwch chi gael parti gyda'r Rhufeiniaid? Bwciwch leoliad unigryw, gyda'r cyfle i wisgo fel y Rhufeiniaid a gweithgareddau crefft.
Diwrnodau Bant o'r Swyddfa
Angen seibiant o'r swyddfa?
Gweithiwch mewn man gwahanol, sy'n addas ar gyfer timau bach, o fewn cyrraedd yr M4.
Llogwch ystafell neu ymunwch â ni am weithgaredd adeiladu tîm (mi wnawn ni ddarparu'r cleddyfau!).
Cefnogwch ein gwaith
Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.