Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gofod cyfarfod a chyflwyno bychan a hyblyg, nid nepell o'r M4, mae Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn leoliad gwych ar gyfer diwrnod hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau.
Mae safle'r amgueddfa yn llawn hen hanes. Mae'n orielau Rhufeinaidd yn addas ar gyfer derbyniad anffurfiol, digwyddiadau rhwydweithio neu gofrestru cynadleddau.Cewch fwynhau rhywbeth arbennig pan fyddwch yn llogi derbyniad diod yn ein gerddi Rhufeinaidd.
Mae gennym ystafelloedd ar gael ar gyfer cyfarfod neu gyflwyno, oll ar gael am bris rhesymol.
Oes angen 'chydig o hwyl ar eich tîm? Ychwanegwch becyn gweithgaredd Rufeinig at eich llogiad ystafell. Mae dyddiau adeiladu tîm holl-gynhwysfawr ar gael hefyd.
Os ydych chi'n grwp cymunedol, yn elusen gofrestredig, gorff addysg ffurfiol neu'n rhan o Lywodraeth Cymru, cewch logi stafell am ddiwrnod am bris gostyngedig.
Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol. Llogwch ein lleoliad er mwyn cefnogi'n gwaith elusennol - yn darparu digwyddiadau, arddangosfeydd a chyfleon i ddegau o filoedd o ymwelwyr, bob blwyddyn.