Llogi Ystafelloedd
Clasurol a Chyfleus
Gofod cyfarfod a chyflwyno bychan a hyblyg, nid nepell o'r M4, mae Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yn leoliad gwych ar gyfer diwrnod hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau.
Cysylltwch â niYsbrydoliaeth
Mae safle'r amgueddfa yn llawn hen hanes. Mae'n orielau Rhufeinaidd yn addas ar gyfer derbyniad anffurfiol, digwyddiadau rhwydweithio neu gofrestru cynadleddau.
Cewch fwynhau rhywbeth arbennig pan fyddwch yn llogi derbyniad diod yn ein gerddi Rhufeinaidd.
Cyflwyniadau a Chyfarfodydd
Mae gennym ystafelloedd ar gael ar gyfer cyfarfod neu gyflwyno, oll ar gael am bris rhesymol.
Adeiladu Tîm
Oes angen 'chydig o hwyl ar eich tîm? Ychwanegwch becyn gweithgaredd Rufeinig at eich llogiad ystafell. Mae dyddiau adeiladu tîm holl-gynhwysfawr ar gael hefyd.
Croeso i Bawb
Os ydych chi'n grwp cymunedol, yn elusen gofrestredig, gorff addysg ffurfiol neu'n rhan o Lywodraeth Cymru, cewch logi stafell am ddiwrnod am bris gostyngedig.
Cysylltwch â ni i weld a allwn ni eich helpu.Cefnogwch ein gwaith
Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.
Llogwch ein lleoliad er mwyn cefnogi'n gwaith elusennol - yn darparu digwyddiadau, arddangosfeydd a chyfleon i ddegau o filoedd o ymwelwyr, bob blwyddyn.