Adeiladau Hanesyddol
Mae dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol yng Nghymru wedi'u hailgodi ar ein parcdir can erw.
Codwyd Eglwys Sant Teilo yn wreiddiol mewn camau gan ddechrau tua 1100 hyd 1520 ac fe'i symudwyd garreg wrth garreg i Sain Ffagan dros gyfnod o ugain mlynedd. Mae'n broject trawiadol ac adeilad hardd.
Mae Kennixton yn ffermdy nodweddiadol o Fro Gŵyr yn y de. Credid bod y waliau trawiadol sydd mor goch â gwaed yn fodd i'w amddiffyn rhag ysbrydion drwg fel yr aeron ar y griafolen a'r ffigyrau cerfiedig y tu ôl i'r drws ffrynt.
Teithiwch drwy amser wrth weld chwe chartref, eu cynnwys a'u gerddi yn newid o 1805 hyd 1985 yn nhai gweithwyr haearn Rhyd-y-car.
Edrychwch ar y stafelloedd, y celfi a'r gwrthrychau sy'n darlunio gwahanol gyfnodau o hanes Merthyr Tudful, crud y chwyldro diwydiannol ac un o'r trefi haearn pwysicaf yn y byd yn y 19eg ganrif.
Dim ond ychydig o uchafbwyntiau yw'r rhain ymhlith ystod wych o adeiladau hanesyddol ar safle Sain Ffagan sy’n cynnwys bythynnod a thai traddodiadol, capel, ysgol, gwahanol felinau, swyddfa bost, tanerdy a tholldy.
Rhestr gyflawn o Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan