Digwyddiad: Bwyd Da: Different Fruitures - Sioe i'r teulu cyfan (Saesneg)
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
Lleoliad: Cae Cilewent (gyferbyn â 46)
Wedi ei gyflwyno gan: Action Movement Peace
Mae Action Movement Peace yn dychwelyd i ddod â pherfformiad theatr rhyngweithiol sy'n addas i bob oedran! Teithiwch i ddyfodol posib lle mae'r MOCH yn rheoli. Gallwch helpu i'w hatal trwy ddefnyddio eich creadigrwydd a'ch llais. Byddwch yn helpu Hadau ar eu taith i ailddarganfod y gwir bethau anghofiedig... Cwmni theatr o Gaerdydd yw Action Movement Peace sy'n creu gwaith sy'n ceisio cysylltu pobl â byd natur, eu hunain a'i gilydd.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o raglen ddeuddydd Ardal Bwyd Da Caerdydd, dan arweiniad Bwyd Caerdydd.