Cwrs: Cwrs Cerfio Llwyau



Ymunwch â Vic Phillips o SingleMaltTeapot i ddysgu am yr offer a’r technegau sy’n hanfodol wrth gerfio llwy. Ar ddiwedd y gweithdy bydd y sgiliau gennych i ddefnyddio cyllyll ar gyfer amrywiaeth o brojectau cerfio, a byddwch wedi creu llwy o bren leim.
Yn ystod y gweithdy byddwn yn trafod:
Defnyddio offer torri pren yn ddiogel.
Sut i gerfio pren gyda chyllyll.
Rhoi gorffeniad hardd i’ch llwy.
Chwilio am ddeunyddiau newydd a’r gwahaniaeth rhwng gwahanol fathau o bren.
Yr offer sydd eu hangen i gerfio a sut i ofalu amdanynt.
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu.
Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan).
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Cymerwch olwg ar rhai o gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales