Digwyddiad: Llwybr Hanner Tymor Calan Gaeaf yn Sain Ffagan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen


Bŵ! Mae’n Galan Gaeaf! A dyma’r lle i ddiddanu eich coblynnod bach dros hanner tymor, gyda’n Llwybr Calan Gaeaf.
Dewch i nôl taflen, a dilyn y cliwiau i ddod o hyd i’r pwmpenni sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa.
Gwnewch luniau wynebau yn y pwmpenni, chwiliwch am y llythrennau wrth ymyl y pwmpenni i ddatrys y pos, cyn mynd nôl i’r siop i gasglu eich gwobr.
Beth fydda i’n gael?
- Taflen A4 liwgar.
- Os cewch chi drafferth, mae cod QR defnyddiol i’ch helpu!
- Danteithion siocled (ar ôl cwblhau’r llwybr). Opsiwn heb gynnyrch llaeth ar gael.
Lle alla i gael y daflen?
- Bydd y daflen ar gael yn yr Atriwm wrth i chi gyrraedd.
- Dim angen archebu ymlaen llaw.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae’r weithgaredd hon yn ddwyieithog.
- Addas i blant 4+ oed; efallai bydd plant iau angen help.
- Cost: yn cynnwys un daflen ac un wobr siocled. Mae croeso i chi gwblhau’r gweithgaredd fel teulu neu brynu un yr un.
- Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau eco-gyfeillgar a byddwn yn eu defnyddio eto.
- Gostyngiad o 10% i aelodau Amgueddfa Cymru.
Nifer cyfyngedig ar gael - cyntaf i’r felin!
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Amgueddfeydd.