Digwyddiadau

Digwyddiad: Nawroz 2023

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
18 Mawrth 2023, 12pm-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae'r gwanwyn ar gyrraedd ac mae'n amser dathlu dechrau blwyddyn newydd gyda Nawroz! P'un a ydych chi'n dweud Nowruz, Norooz neu Nowrooz, diben yr ŵyl gyffrous hon yw cofleidio'r newydd a chofnodi troad y flwyddyn solar yn unol â chalendr Jalali.

Pa ffordd well o ddathlu nag ymuno ag Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Gwrdaidd Cymru am ddiwrnod o gerddoriaeth, perfformiadau a chrefft? Ymgollwch yn seiniau cyfareddol a lliwiau llachar y traddodiad diwylliannol cyfoethog hwn, a darganfod harddwch Nowruz trwy ystod o weithgareddau cyffrous.

Dan arweiniad yr artistiaid Naz Syed a Neda Mohammad, bydd ein gweithdai galw heibio yn gyfle i ddysgu a chreu yn ymarferol gydag eraill wrth i chi ddarganfod a dathlu diwylliant a chelfyddyd Nawroz. Felly dewch draw gyda'ch teulu a ffrindiau a pharatoi i groesawu'r flwyddyn newydd gyda diwrnod o hwyl, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol!

 

Digwyddiadau