Digwyddiadau

Digwyddiad: Project Adfer Clai

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
24 a 25 Mehefin 2023, 1pm-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Cymerwch ran mewn gweithdy gwych gyda'r artist o India, Purnendu Dey. Sesiwn llawn sbort o ddysgu am grefft tylino clai a datblygu gwrthrych cerfluniol. Sbardun y gweithdy yw comisiwn diweddaraf Purnendu Dey, Project Adfer Clai dan arweiniad Cyngor Puja Cymru. Mae wedi'i ysbrydoli gan waith adfer set eilunod Durga ryfeddol, gan gynnwys y bodau dwyfol Durga, Lakshmi, Saraswati, Kartik, a Ganesh, ac mae'r gweithdy yn rhoi cip unigryw ar y broses greu. 

 

 

Cynnwys y Gweithdy:

  • Dealltwriaeth o Gyd-destun Purnendu Dey: Dysgwch fwy am y project adfer clai gyda'r arbenigwr Pernudu Dey.

  • Tylino Clai: Adeiladwch fodelau anatomig o glai a gwellt gyda chymorth yr artist preswyl a fideo archif o waith adfer delwau.

  • Addurno: Defnyddiwch ddeunyddiau o India i greu setiau bach a regalia ar gyfer eich creadigaethau.

  • Creadigaethau i'w Cadw: Gallwch chi fynd â phopeth fyddwch chi'n eu creu gyda chi.

  • Cymorth a Chefnogaeth: Bydd aelodau pwyllgor Puja Cymru, yr artist Mr. Purnendu Dey a'i wraig Chitralekha ar gael i ateb eich cwestiynau. ⁠

Tocynnau

 

Digwyddiadau