Digwyddiadau

Digwyddiad: Nosweithiau Calan Gaeaf

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
29 - 31 Hydref 2023, 6pm-9pm
Pris £14 y plentyn | £11 oedolyn
Addasrwydd Teuluoedd gyda plant rhwng 6 - 12

Nosweithiau Calan Gaeaf Sain Ffagan 2023

Mae Calan Gaeaf ar ei ffordd, ac mae'n bryd dod â'r bwganod bach drygionus i'r Amgueddfa am noson ddychrynllyd o dda!

Dim tocynnau ar ôl 

Dilynwch eich trwynau o amgylch yr Amgueddfa i ganfod ein gwesteion arallfydol. Mae pob un yn gymeriadau o hanesion llên gwerin rhyfeddaf Cymru – fyddwch chi'n ddigon dewr i roi cnoc ar y drws? 

Bydd y Gŵr Gwiail yn llosgi bob nos hefyd. Dathlwch wrth groesawu'r gaeaf a gwneud dymuniad wrth i'r gwreichion dasgu!

Bydd straeon syfrdanol yn codi bwganod yn hen fwthyn Nantwallter ac o gwmpas crochan y wrach yn Oakdale. 

Rhowch gynnig ar rai o'r gweithdai crefft a chreu llusern, cymysgu diod hud a llawer mwy...

Dysgwch am y Gŵr Gwiail yn y talwrn ceiliogod.

Galwch draw i Sgwâr Gwalia i fwyta a thorri syched gyda dewisiadau o fwyd a diod poeth

Dewch ag arian parod i’w wario yn y ffair a’r Farchnad Grefftwyr

Mae pris y tocyn yn cynnwys:

• Gweithgareddau galw draw*

     o  Creu Llusern

     o Cymysgu diod hud

     o Crefftau Calan Gaeaf

     o Creu Gŵr Gwiail bach

• Straeon ysbryd

• Arddangosfa o 50 a mwy o rwdins prydferth

• Peintio wynebau

• Un taith yr un i bob plentyn yn y ffair (dan 18 yn unig) 

• Perfformiadau gan gymeriadau Calan Gaeaf La La La

• Llosgi'r Dyn Gwiail am 8:30pm

• Parcio am ddim ar gyfer y digwyddiad (ar ôl 5pm)

* ddim yn cynnwys gweithgareddau'r Farchnad Grefftwyr. 

Bydd bwyd a diod ar gael i'w prynu o gaffi'r Amgueddfa yn y Prif Adeilad, y siop sglodion, a’r stondinau ar Sgwâr Gwalia.

 

Gwybodaeth Bwysig:
 
  • Mae parcio yn gyfyngedig iawn yn Sain Ffagan, ystyriwch rannu ceir.

  • Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig a disgwyliwn i docynnau werthu allan yn gyflym.

  • Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 6+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.

  • Mae mynediad i blant dan 2 oed am ddim – archebwch docyn am ddim i bob plentyn dan 2 oed fydd yn mynychu. Fydd plant dan 2 oed ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, a fyddan nhw ddim yn cael reid am ddim yn y ffair oherwydd cyfyngiadau oedran.

  • Caniateir pramiau a chadeiriau gwthio ar y safle, ond ni ellir mynd i mewn i'r adeiladau hanesyddol. 

  • Dylech chi wisgo dillad sy'n addas i'r tywydd. Bydd angen i chi aros tu allan tan i'r drysau agor am 6pm, ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi aros tu allan i adeiladau cyn mynychu gweithgareddau a gweithdai.

  • Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.

  • Cŵn cymorth yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.

  • Byddwch chi'n derbyn cadarnhad o'ch tocynnau ar ôl archebu.
  • Byddwch chi'n derbyn ebost cyn y digwyddiad gyda map o'r safle wedi atodi. Plis cofiwch safio y map ar eich ffôn cyn ymweld a'r noson Calan Gaeaf.

  • Am fwy o wybodaeth hygyrchedd plîs ewch ar ein wefan: https://amgueddfa.cymru/sainffagan/ymweld/mynediad/

Os ydych am i Ofalwr fynychu'r digwyddiad hwn, cysylltwch â ticketing@amgueddfacymru.ac.uk i ychwanegu'r tocyn hwn at eich archeb gyda rhif eich archeb ar ôl cwblhau eich pryniant.

Gostyngiad o 10% i Aelodau, dewch yn aelod heddiw

 

FAQ’S Halloween 2023 

 

 

Digwyddiadau