Digwyddiad: Canu yn y Capel
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa?
Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd. Bydd digon o garolau traddodiadol yn ogystal ag ambell glasur fwy cyfoes.
Gwybodaeth Bwysig:
- Rhaid i bawb sy’n dod gael tocyn. Does dim angen tocyn ar gyfer plant dan 2 oed na babanod yn eich breichiau, ond rhaid gadael pob pram tu allan i’r adeiladau hanesyddol.
- Hygyrchedd: Oherwydd natur hanesyddol y Capel, ychydig o le sydd ar gyfer cadeiriau olwyn. Dewiswch le cadair olwyn wrth brynu’ch tocyn.
- Mae hwn yn adeilad hanesyddol, ac er ei fod yn hygyrch, dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol bod y llawr yn anwastad mewn mannau.
- Dyrennir seddi ar sail y cyntaf i'r felin, nodwch fod y seddau ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
- Mae eich tocyn Canu yn y Capel yn rhoi gostyngiad o 10% i chi ar ddiodydd poeth yng nghaffis yr Amgueddfa ar ddiwrnod eich digwyddiad.
- Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu eich tocyn i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Gostyngiad o 10% i Aelodau, dewch yn aelod heddiw