Digwyddiad: Traddodiadau'r Nadolig: Perfformiadau Y Fari Lwyd a Hela'r Dryw
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
Dewch i weld rhai o'r arferion Cymreig enwocaf yn ystod tymor y Nadolig, Y Fari Lwyd a Hela'r Dryw, yn cael eu perfformio gan Gwmni Dawns Werin Caerdydd. Mae’r traddodiadau gaeafol anarferol yma yn cynnwys canu, dawnsio, a phenglog ceffyl!
*Ni fydd unrhyw ddryw bach yn cael ei anafu!
Amseroedd y perfformiadau
Sadwrn 16/12/23: 11am a 2pm
Sul 17/12/23: 1.30pm a 3.30pm
Lleoliad
Y tu allan i'r Tolldy (adeilad rhif 16 ar y Map Safle)