Digwyddiad: Bore i Ddysgwyr Cymraeg
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
Galwch draw i’n gweld ni yn Sain Ffagan am fore arbennig i ddysgwyr Cymraeg i ddathlu'r Gwanwyn gyda chyfle i ddysgu am Dewi Sant.
Dewch i ymarfer eich Cymraeg, chwarae gemau bwrdd, darganfod yr adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg yn Sain Ffagan, cwrdd â dysgwyr eraill a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd.