Arddangosfa: Hawlio Heddwch
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd bron i 400,000 o fenywod Cymru ddeiseb heddwch a'i chyflwyno i fenywod Unol Daleithiau America. Roedden nhw'n galw am ddyfodol heb ryfel.
Ganrif yn ddiweddarach, cafodd Deiseb Heddwch Menywod Cymru ei hailddarganfod a’i dychwelyd i Gymru. Mae’r ddeiseb a’r gist, ar fenthyg gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ymhlith rhai o brif atyniadau’r arddangosfa hon.
Ochr yn ochr â’r ddeiseb mae cyfle i weld baneri protest eiconig ymgyrch heddwch Comin Greenham yn y 1980au, sy’n rhan o gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru.
Dewch i ddarganfod mwy am rai o’r menywod ysbrydoledig hyn a’u cyfraniad at heddwch rhyngwladol.
Mae’r arddangosfa yn rhan o Bartneriaeth Hawlio Heddwch.