Digwyddiadau

Digwyddiad: Justice is Served

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
16 a 17 Mawrth 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mae Briddgariot Productions yn cyflwyno hanes gwefreiddiol Justice Is Served, cyfuniad o ddarllediad radio a theatr byw wedi’i ysgrifennu gan Anthony Wright, a’i gyfarwyddo gan Robert Marrable.

 

Dewch gyda ni ar daith drwy amser gyda Vernon Morgan, mewnfudwr o Jamaica sy'n dod i arfer â Chymru yn y 1950au. 

Wrth chwilio am ddechrau newydd, mae Vernon yn edrych ar sylfaeni cymdeithas Cymru, ac yn cael ei ddal mewn pob math o gyfyng-gyngor moesegol.

 

Cafodd Anthony Wright ei ysbrydoliaeth gan ei dad, Victor Wright, mewnfudwr o Jamaica a gyrhaeddodd Gymru yn ystod cyfnod Windrush. Drwy’r theatr, mae Anthony yn taflu goleuni ar straeon angof glowyr du Cymru.

 

Bachwch ar y cyfle hwn i weld hanes yn dod yn fyw ar y llwyfan wrth i ni edrych ar gymhlethdodau hunaniaeth, cyfiawnder ac ysbryd pobl.

 

 

Cliciwch ar y ddolen isod i gadw eich lle 

 

Justice is Served

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: Sefydliad y Glowyr Oakdale

16/17 Mawrth 2024

2pm-4pm 

Sylwer y bydd y perfformiad(au) ar lawr cyntaf Sefydliad y Glowyr Oakdale, a bydd angen mynd i fyny’r grisiau i gyrraedd yno. Os fyddai hyn yn cael effaith arnoch chi, hoffwn eich gwahodd i ymuno â ni yn Narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Tocynnau

 

Justice is Served

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Darlithfa Reardon Smith 

22 Mawrth 2024

6pm-8pm

Yn ogystal â’r perfformiadau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, byddwn yn cynnal perfformiad ychwanegol sy’n hygyrch i bawb yn Narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r lleoliad hwn yn cynnwys gwell amgylchedd i bobl ag anghenion symudedd. 

Tocynnau

 

 Mae mynedfa Darlithfa Reardon Smith ar Park Place yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dyma’r ddolen canfod lleoliad -

https://goo.gl/maps/uHui8o8pv58FMctR7   

 

Os oes gennych chi unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch ag Aaron.Schoburgh@amgueddfacymru.ac.uk 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Studios 54 | Rehearsal & Recording Studio - Porth, Rhondda Cynon TafCovid 19 Support for individuals - Urgent Response FundSenior Technician | Arts Council of Wales

Digwyddiadau