Cwrs: Darlunio Boteganol
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cwrs diwrnod yn rhoi'r cyfle i chi droi eich llaw at Ddarlunio Botanegol.
Dan arweiniad yr artist Debbie Devauden, byddwch yn dysgu'r technegau sydd eu hangen i greu paentiad dyfrlliw.
Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr a darlunwyr ychydig yn fwy profiadol, ac mae'r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.
Gwybodaeth Bwysig
- Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
- Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB
- Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwyluswyr - sef Saesneg.
- Cyfyngiad Oedran 16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
- Hygyrchedd: Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw anghenion hygyrchedd.
Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.