Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru 2024

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
7 a 8 Medi 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 7 a 8 Medi! 

 
Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, bydd Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.
 
Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.
 
Cadwch lygad dros y misoedd nesaf am gyhoeddiadau a mwy o wybodaeth am stondinwyr a rhaglen gweithgareddau'r ŵyl.
 
 
Digwyddiadau